Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

View the meeting transcript (PDF 573KB) View as HTML (357KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon. Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

(09:30-09:45)

2.

Fideo: Sylwadau gan fusnesau o amgylch Cymru - Seilwaith Digidol yng Nghymru

Rhayna Mann, Uwch Allgymorth a Swyddog Ymgysylltu, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cofnodion:

2.1 Gwnaeth Rhayna Mann, Uwch-swyddog Allgymorth ac Ymgysylltu, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gyflwyno fideo i Aelodau'r Pwyllgor.

(09:45-10:45)

3.

BT Group - Seilwaith Digidol yng Nghymru

Ed Hunt, Cyfarwyddwr y Rhaglen Superfast Cymru, BT Group

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Atebodd Ed Hunt a Garry Miller o BT Group gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor.

(11:00-12:00)

4.

Sesiwn graffu gyda'r Gweinidog - Seilwaith Digidol yng Nghymru

Julie James AM, Y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth

Simon Jones, Cyfarwyddwr, Trafnidiaeth ac Seilwaith TGCh

Richard Sewell, Dirpwy Cyfarwyddwr, Is-adran Isadeiledd TGCh

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Atebodd y Gweinidog a’i swyddogion gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.

 

4.2 Cytunodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth i roi (lle bo'n hysbys):

 

·           Rhagor o fanylion am gyflymderau ffibr yng Nghymru, gan fod y cyflymderau a argymhellir ar gyfer band eang cyflym iawn yn rhy isel.

 

Cytunodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth hefyd i roi:

 

Manylion am yr adolygiad diweddar ar y cynllun taleb gwibgyswllt gan roi rhagor o wybodaeth am faint o geisiadau sydd wedi cael eu cymeradwyo a'u cwblhau.

5.

Papur(au) i'w nodi

5.1

Cynllun Gweithredu Cysylltedd Symudol Llywodraeth yr Alban - Seilwaith Digidol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nodwyd Cynllun Gweithredu Cysylltedd Symudol Llywodraeth yr Alban gan y Pwyllgor