Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 937KB) Gweld fel HTML (390KB)

 

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1  Cafwyd ymddiheuriadau gan Adam Price AC.

Ni chafwyd unrhyw ddirprwyon na datgan buddiannau.

(09:15-10:15)

2.

Panel busnes - Yr ardoll brentisiaethau yng Nghymru

Gavin Jones, Pennaeth Rhaglenni Gyrfaoedd Cynnar, Airbus UK

Joanne Foster, Llywodraeth y DU ac Arweinydd Cysylltiadau Busnes, GE Aviation

Craige Heaney, Pennaeth Gweithrediadau Grŵp Dysgu a Datblygu, Centrica

Anne Middleton, Rheolwr Adnoddau Dynol, Atradius

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd Gavin Jones, Joanne Foster, Craige Heaney ac Anne Middleton gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor

2.2 Gofynnwyd i Joanne Foster ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig am yr ardoll brentisiaethau i gynorthwyo â'r dystiolaeth yr ydym eisoes yn ei chasglu

(10:30-11:30)

3.

Hyfforddiant i ddarparwyr - Yr ardoll brentisiaethau yng Nghymru

Jeff Protheroe, Rheolwr Gweithrediadau, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru

Sarah John, Cadeirydd, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru

Rachel Bowen, Cyfarwyddwr Polisi a Datblygu, Colegau Cymru

Claire Roberts, Cyfarwyddwr ymgysylltu, Colegau Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Atebodd Jeff Protheroe, Sarah John, Dr Rachel Bowen a Claire Roberts gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor

4.

Papur(au) i'w nodi

4.1

Gwybodaeth ychwanegol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ynghylch Croeso Cymru yn deillio o'r cyfarfod ar 3 Tachwedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor y papur hwn.

(14:00-15:00)

5.

Menywod yn yr economi - Safbwyntiau amgen ar y Strategaeth Economaidd i Gymru

Natasha Davies, Arweinydd Polisi ac Ymchwil, Chwarae Teg

Dr Alison Parken, Cyfarwyddwr, Menywod yn Ychwanegu Gwerth at yr Economi (WAVE), Prifysgol Caerdydd

Helen Walbey, Director, Rideout Motorcycles and Scooters

 

 

Cofnodion:

5.1 Atebodd Natasha Davies, Dr Alison Parken a Helen Walbey gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor

5.2 Gofynnwyd i Helen Walbey gyflwyno manylion mewn perthynas â gweinyddu busnesau bach yn America, yn arbennig beth yw'r elfennau gorau mewn perthynas â chanolfannau menywod