Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/03/2019 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1  Cafwyd ymddiheuriadau gan Jack Sargeant AC a Bethan Sayed AC

1.2 Dirprwyodd Siân Gwenllian AC ar ran Bethan Sayed AC

Datganodd Mark Reckless gyfranddaliadau yn Redrow Homes

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth

(9.40-10.40)

3.

Rhwystrau sy'n wynebu cwmnïau bach sy'n adeiladu cartrefi: Cwmnïau mawr sy'n adeiladu cartrefi

Tim Stone, Rheolwr Gyfarwyddwr, Redrow De Cymru

Jane Carpenter, Cyfarwyddwr Cynllunio, Redrow De Cymru

Daryl Jones, Pennaeth Tir, Persimmon Dwyrain Cymru

Mark Harris, Cynghorwr Cynllunio a Pholisi Cymru, Home Builders Federation

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Atebodd Tim Stone, Jane Carpenter, Daryl Jones a Mark Harris gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor

3.2 Mae Jane Carpenter, Redrow Homes a Daryl Jones, Persimmon Homes, wedi cytuno i roi rhagor o fanylion am gyfran y bobl y maent yn eu cyflogi ac yn eu his-gontractio yng Nghymru ar adeiladu tai Cymru a hefyd o bosibl yn ardal y Cymoedd.

Hefyd, mae Redrow Homes a Persimmon Homes wedi cytuno i roi rhagor o fanylion i'r pwyllgor am y rhaglen amrywiaeth a'r ardoll brentisiaethau.

(10.50-11.50)

4.

Rhwystrau sy'n wynebu cwmnïau bach sy'n adeiladu cartrefi: Cynllunio

Ian Stevens, Fforwm Polisi ac Ymchwil, Royal Town Planning Institute Cymru

Gareth Davies, Cyfarwyddwr Datblygu, Coastal Housing (yn cynrychioli Cartrefi Cymunedol Cymru)

Simon Gale, Cynllunio Cyfarwyddwyr Gwasanaethau, Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Atebodd Ian Stevens, Gareth Davies a Simon Gale gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor

(11.50-12.20)

5.

Rhwystrau sy'n wynebu cwmnïau bach sy'n adeiladu cartrefi: Dŵr Cymru

Ian Wyatt, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid Busnes, Dŵr Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Atebodd Ian Wyatt gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitemau 7 ac 8

Cofnodion:

6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig

(12.25-12.30)

7.

Papur cwmpasu: Papur Gwyn Gwella Trafnidiaeth Gyhoeddus

Cofnodion:

7.1 Derbyniodd y Pwyllgor y papur cwmpasu

(12.30-12.45)

8.

Adroddiad drafft: Achosion o darfu ar y rheilffyrdd yn yr hydref

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft