Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 559KB) Gweld fel HTML (345KB)

 

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon. Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

(09.30-10.15)

2.

Yr Athro Dylan Jones-Evans - bargeinion dinesig ac economïau rhanbarthol Cymru

Yr Athro Dylan Jones-Evans, Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol, Prifysgol De Cymru

Cofnodion:

2.1 Atebodd Dylan Jones-Evans gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor

2.2 Bydd yr Athro Dylan Jones-Evans yn anfon dogfen at y Pwyllgor y mae Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru yn gweithio arni gyda'i gilydd mewn cysylltiad â Bargen Ddinesig Caerdydd.

2.3 Trafododd yr Athro Dylan Jones-Evans hefyd ddogfen y mae'n gobeithio ei hanfon mewn cysylltiad â Bargen Ddinesig Abertawe.

(10.15-11.15)

3.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol - bargeinion dinesig ac economïau rhanbarthol Cymru

Mark Drakeford AM, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Jo Salway, Pennaeth Swyddfa’r Cabinet, Llywodraeth Cymru

Debra Carter, Dirprwy Gyfarwyddwr - Cyllid Strategol Awdurdodau Lleol, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Atebodd Mark Drakeford AC, Jo Salway a Debra Carter gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor

(11.30-12.30)

4.

Panel busnes - bargeinion dinesig ac economïau rhanbarthol Cymru

Paul Byard, Cyfarwyddwr cenedlaethol – Cymru, EEF, sefydliad y gweithgynhyrchwyr

John Brunt, Uwch Reolwr Rhwydwaith, Grŵp Gweithgynhyrchu’r Canolbarth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Atebodd Paul Byard a John Brunt gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor

5.

Papur(au) i'w nodi

5.1

Gohebiaeth â Chadeirydd y Pwyllgor Deisebau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.