Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 512KB) Gweld fel HTML (204KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon. Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

(09.30-10.45)

2.

Craffu ar Gyllid Cymru

Giles Thorley, Prif Weithredwr, Cyllid Cymru

Gareth Bullock, Cadeirydd, Cyllid Cymru

Kevin O’Leary, Cyfarwyddwr Cyllid, Cyllid Cymru

Michael Owen, Cyfarwyddwr Buddsoddi Grŵp, Cyllid Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd Giles Thorley, Gareth Bullock, Kevin O'Leary a Michael Owen gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor.

2.2 Cytunodd Giles Thorley i ddarparu rhagor o fanylion i'r Pwyllgor am y 6 allanfa proffidiol, tra bod y 'Nodyn Esboniadol ar Gyfrifon' a ddarparwyd gan Gyllid Cymru i'r Pwyllgor yn cyfeirio at 8 allanfa.

2.3 Beth oedd cyfanswm y cronfeydd a gafodd eu dileu ac yn benodol ar gyfer pob un o'r 4 blynedd diwethaf.

2.4 Manylion pellach am sut maent yn monitro proffil risg y buddsoddiadau.

3.

Papur(au) i'w nodi

3.1

Gohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch y Fasnachfraint Rheilffyrdd a Metro De Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig

(10.45-11.15)

5.

Blaenraglen waith drafft – Gwanwyn 2018

Cofnodion:

5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y rhaglen waith