Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/06/2018 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am
absenoldeb gan Rhianon Passmore AC. Roedd Joyce Watson AC yn dirprwyo ar ran
Rhianon. Roedd David Melding AC yn bresennol fel dirprwy ar ran Janet
Finch-Saunders AC ar gyfer eitemau 1, 2 a 3 y cyfarfod. |
||
(09.30 - 11.00) |
Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd ac ati) (Cymru) – Sesiwn dystiolaeth 1 Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Tai ac Adfywio Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Polisi Tai,
Llywodraeth Cymru Neil Buffin, Uwch Gyfreithiwr, Llywodraeth Cymru Huw Charles, Rheolwr y Bil, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio ·
Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Polisi Tai, Llywodraeth
Cymru ·
Neil Buffin, Uwch Gyfreithiwr, Llywodraeth Cymru ·
Huw Charles, Rheolwr y Bil, Llywodraeth Cymru 2.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r
wybodaeth a ganlyn: ·
asesiad o'r dystiolaeth a drafodwyd yn San Steffan wrth graffu ar y Bil
Ffioedd Tenantiaid, a oedd yn nodi cynnydd o 4.2 y cant mewn rhent yn yr Alban
pan basiwyd deddfwriaeth gyfatebol o'i gymharu â gostyngiad o 0.7 y cant yn
Lloegr yn ystod yr un cyfnod; ·
gwybodaeth yn nodi a yw'r ddarpariaeth yn Atodlen 2, paragraff 3,
is-is-baragraff (b) yn ddigonol i ymdrin ag achosion pan fydd
landlord/asiantaeth yn torri'r cytundeb hwn, yn enwedig mewn achosion pan fydd
myfyrwyr yn sicrhau eiddo fisoedd cyn iddynt symud i mewn i'r eiddo hwnnw ac
mae'r cytundeb yn amodol ar waith pellach gan y landlord; a ·
gwybodaeth ychwanegol yn nodi a ddylai dirwyon a roddir gan y Llysoedd i'r
rhai sy'n torri rhwymedigaethau'r Bil fynd i awdurdodau lleol, fel sy'n digwydd
gyda hysbysiadau cosb benodedig. 2.3 Ar ddiwedd y sesiwn, cytunodd y Cadeirydd y byddai'r Pwyllgor yn
ysgrifennu at y Gweinidog gyda chwestiynau nas cyrhaeddwyd yn ystod y sesiwn
dystiolaeth. |
|
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio ynghylch diogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio ynghylch
tyrau o fflatiau yng Nghymru a chytunodd i ymateb i'r llythyr mewn perthynas â sawl
mater. |
||
Sylwadau rhanddeiliaid ar lythyr y Prif Weinidog ynghylch hawliau dynol yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.2.a Nododd y Pwyllgor farn rhanddeiliaid ar lythyr y Prif Weinidog
ynghylch hawliau dynol yng Nghymru. |
||
Ymateb gan Gynghrair Ffoaduriaid Cymru i Gynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru, Cenedl Noddfa – Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.3.a Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Gynghrair Ffoaduriaid Cymru i Gynllun
Gweithredu Llywodraeth Cymru, Cenedl Noddfa – Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o’r cyfarfod ar 27 Mehefin 2018 Cofnodion: 4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(11.10 - 11.25) |
Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd ac ati) (Cymru) – Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2 Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2. |
|
(11.25 - 12.25) |
Ymchwiliad i feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith yng Nghymru – Trafod y prif faterion Cofnodion: 6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y materion allweddol sydd i'w cynnwys yn ei
adroddiad. |