Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 19/09/2018 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Mark Isherwood AC. Roedd David Melding AC yn dirprwyo ar ei ran. Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan Jack Sargeant AC a Bethan Sayed AC.

 

 

(09.00 - 10.00)

2.

Y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) – sesiwn dystiolaeth 8

Gareth Williams, Rheolwr Asiantaeth Llety (Iechyd yr Amgylchedd, Llety Dros Dro, Gosodiadau Cymdeithasol a Datblygu Sector Preifat), Cyngor Sir Caerfyrddin

Jim McKirdle, Swyddog Polisi Tai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Jim McKirdle, Swyddog Polisi Tai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

·       Gareth Williams, Rheolwr Asiantaeth Llety (Iechyd yr Amgylchedd, Llety Dros Dro, Gosodiadau Cymdeithasol a Datblygu Sector Preifat), Cyngor Sir Gâr

 

(10.00 - 11.30)

3.

Y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) – sesiwn dystiolaeth 9

·         Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio

·         Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Adran Polisi Tai, Llywodraeth Cymru

·         Helen Kellaway, Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

·         Huw Charles, Rheolwr y Bil, Llywodraeth Cymru

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio

·       Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Polisi Tai, Llywodraeth Cymru

·       Helen Kellaway, Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

·       Huw Charles, Rheolwr y Bil, Llywodraeth Cymru

 

3.2 Yn ystod y cyfarfod, cytunodd y Gweinidog Tai ac Adfywio i ddarparu'r canlynol:

·       trosolwg o'r hyn a gaiff ei gynnwys yn y canllawiau i denantiaid a landlordiaid cyn i'r Bil ddod i rym. Ymrwymwyd i ddarparu'r trosolwg hwn cyn dechrau'r gwaith o graffu ar y Bil yng Nghyfnod 2.

·       nodyn i egluro pam y mae angen y darpariaethau a geir yn y Bil ar hyn o bryd o ran yr hawl i rentu.

·       rhagor o wybodaeth am sut y bydd y Ddeddf yn cael ei gwerthuso unwaith y daw i rym.

·       eglurhad ynghylch pam nad yw'r Bil yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol gynorthwyo deiliaid contract i adennill taliadau gwaharddedig.

 

 

4.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

4.1

Llythyr oddi wrth y Llywydd mewn perthynas â hawliau pleidleisio i garcharorion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Llywydd mewn perthynas â hawliau pleidleisio i garcharorion

 

4.2

Llythyr oddi wrth y Gweinidog Tai ac Adfywio mewn perthynas â diogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Gweinidog Tai ac Adfywio ynghylch diogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru

 

4.3

Llythyr oddi wrth y Prif Weinidog at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol mewn perthynas â Hawliau Dynol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Prif Weinidog at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol mewn perthynas â Hawliau Dynol yng Nghymru

 

4.4

Llythyr oddi wrth y Gweinidog Tai ac Adfywio mewn perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.4a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Gweinidog Tai ac Adfywio mewn perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru

 

4.5

Llythyr ar y cyd â Chadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid at Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip mewn perthynas â'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2019-20

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.5a Nododd y Pwyllgor y llythyr ar y cyd â Chadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid at Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip mewn perthynas â'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2019-20

 

4.6

Llythyr ar y cyd gan randdeiliaid mewn perthynas â'r Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.6a Nododd y Pwyllgor y llythyr ar y cyd gan randdeiliaid mewn perthynas â'r Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru)

 

4.7

Llythyr oddi wrth y Gweinidog Tai ac Adfywio mewn perthynas â’r Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.7a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Gweinidog Tai ac Adfywio mewn perthynas â’r Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru)

 

4.8

Llythyr oddi wrth y Llywydd mewn perthynas â digwyddiadau’r rhaglen Senedd@

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.8a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Llywydd mewn perthynas â digwyddiadau’r rhaglen Senedd@

 

4.9

Cyflwyniad ysgrifenedig i Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig mewn perthynas â thlodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.9a Nododd y Pwyllgor y cyflwyniad ysgrifenedig i Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig mewn perthynas â thlodi

 

4.10

Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.10a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(11.30 - 12.30)

6.

Y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru): trafod y materion allweddol

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y materion allweddol.

 

(12.30 - 12.35)

7.

Ymchwiliad i feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith yng Nghymru – trafod ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad

Cofnodion:

7.1 Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.