Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/01/2019 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

1.2.      Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Siân Gwenllian AC , Jack Sargeant AC a Jayne Bryant AC. Dirprwyodd Huw Irranca-Davies AC ar ran Jayne Bryant AC.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2017/18 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Chris Vinestock, Prif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr Ymchwiliadau

Katrin Shaw, Prif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr Ymchwiliadau

 

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: adroddiad blynyddol a chyfrifon 2017/18

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

·       Chris Vinestock, Prif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr Ymchwiliadau

·       Katrin Shaw, Cyfarwyddwr Polisi, Materion Cyfreithiol a Llywodraethu

2.2     Yn ystod y sesiwn, cytunodd yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus i ddarparu ei ymateb, os oedd ar gael, i'r ymgynghoriad diweddar ar gynghorau tref a chymuned, ac ar sut yr ymdrinnir â chwynion lleol.

 

(10.30 - 11.45)

3.

Ymchwiliad i amrywiaeth ym maes llywodraeth leol: sesiwn dystiolaeth 6

Julie James AC, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Lisa James, Dirprwy Gyfarwyddwr Democratiaeth Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

Angharad Thomas-Richards, Cynghorwr y Rhaglen Diwygio Etholiadol, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

·       Lisa James, Dirprwy Gyfarwyddwr, Democratiaeth Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

·       Angharad Thomas-Richards, Cynghorwr y Rhaglen Diwygio Etholiadol, Llywodraeth Cymru

 

3.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y Gweinidog Tai ac Adfywio i ddarparu'r eitemau a ganlyn:

·       nodyn briffio ar gynnydd y cwricwlwm newydd mewn ysgolion arloesi, sy'n cynnwys llinyn sy'n annog disgyblion i fod yn ddinasyddion iach a gweithredol yng Nghymru;

·       y daflen a luniwyd gan Gyngor Dinas Bryste ar ei waith ynghylch amrywiaeth;

 

4.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

4.1

Llythyr gan y Llywydd at y Prif Weinidog ar y pryd mewn perthynas â deddfwriaeth sy’n ymwneud â Brexit

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd at y Prif Weinidog ar y pryd mewn perthynas â deddfwriaeth sy’n ymwneud â Brexit.

 

4.2

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ar y pryd mewn perthynas â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ar y pryd mewn perthynas â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20.

 

4.3

Llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio ar y pryd mewn perthynas â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio ar y pryd mewn perthynas â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20.

 

4.4

Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd ac Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip ar y pryd mewn perthynas â beichiogrwydd, mamolaeth a gwaith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.4.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth rhwng y Cadeirydd ac Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip ar y pryd mewn perthynas â beichiogrwydd, mamolaeth a gwaith.

 

4.5

Llythyr gan y Llywydd ynghylch diwygio’r Cynulliad: Ariannu’r Comisiwn Etholiadol ac atebolrwydd y sefydliad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.5.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd ynghylch diwygio’r Cynulliad: Ariannu’r Comisiwn Etholiadol ac atebolrwydd y sefydliad.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1.    Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

(11.45 - 11.50)

6.

Craffu ar adroddiad blynyddol 2017/18 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: trafod y dystiolaeth a gafwyd

Cofnodion:

6.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2.

 

(11.50 - 12.10)

7.

Ymchwiliad i amrywiaeth ym maes llywodraeth leol: trafod y dystiolaeth a gafwyd

Cofnodion:

7.1.    Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 3.

 

(12.10 - 12.25)

8.

Ymchwiliad i ddatganoli budd-daliadau lles: trafod dull gweithredu'r ymchwiliad

Cofnodion:

8.1.    Trafododd y Pwyllgor ei ddull gweithredu ar gyfer yr ymchwiliad i ddatganoli budd-daliadau lles a chytunodd arno.

 

(12.25 - 12.40)

9.

Ymchwiliad i fathodynnau glas: trafod dull gweithredu'r ymchwiliad

Cofnodion:

9.1.    Trafododd y Pwyllgor ei ddull gweithredu ar gyfer yr ymchwiliad i fathodynnau glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu.

 

(12.40 - 12.45)

10.

Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru): Trefn ystyried - cytundeb mewn egwyddor cyn trafodion Cyfnod 2

Cofnodion:

10.1.  Cytunodd y Pwyllgor ar drefn ystyried y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) cyn trafodion Cyfnod 2.