Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/03/2019 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1     Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

1.2     Roedd Leanne Wood AC wedi ymddiheuro am ei habsenoldeb.

 

(9.30 – 11.00)

2.

Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru

Julie James AC, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Adran Polisi Tai

Sarah Rhodes, Pennaeth y Gangen Ddigartrefedd, Adran Polisi Tai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

        Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.

        Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Polisi Tai

        Sarah Rhodes, Pennaeth y Gangen Digartrefedd, yr Is-adran Polisi Tai

 

2.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gadarnhau a oes ganddynt ffigurau ar fenter yr Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai i gwrdd â charcharorion ar ôl eu rhyddhau i'w cyfeirio at wasanaethau priodol. Cytunodd hefyd i nodi a yw'r fenter wedi arwain at ostyngiad yn nifer y carcharorion sy'n dychwelyd i'r strydoedd ar ôl eu rhyddhau ac yna'n dychwelyd i'r carchar.

 

(11:10 – 12:10)

3.

Ymchwiliad i Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu: sesiwn dystiolaeth 1

Miranda Evans, Rheolwr Polisi a Rhaglenni, Anabledd Cymru 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

          Miranda Evans, Rheolwr Polisi a Rhaglenni, Anabledd Cymru.

4.

Papurau i’w nodi

4.1

Llythyr gan Swyddfa Archwilio Cymru mewn perthynas â'r ymgynghoriad ar y rhaglen waith tair blynedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Swyddfa Archwilio Cymru mewn perthynas â'r ymgynghoriad ynghylch blaenraglen waith tair blynedd.

4.2

Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â'r Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â'r Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc) (Cymru).

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(12:10-12:20)

6.

Ymchwiliad i gysgu ar y stryd yng Nghymru: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.

 

6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog yn rhoi braslun o’i sylwadau yn dilyn y sesiwn dystiolaeth.

(12:20-12:30)

7.

Ymchwiliad i Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan Anabledd Cymru.