Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/01/2020 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Caroline Jones AC. |
|
(09.00-11.00) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21: sesiwn dystiolaeth 1 Rebecca Evans AC,
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd Hannah Blythyn
AC, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol John Howells,
Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru Reg Kilpatrick,
Cyfarwyddwr Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Rebecca Evans AC, y Gweinidog
Cyllid a’r Trefnydd ·
Hannah Blythyn AC, y Dirprwy
Weinidog Tai a Llywodraeth Leol ·
John Howells, Cyfarwyddwr Tai ac
Adfywio, Llywodraeth Cymru ·
Reg Mitchell-Kilpatrick,
Cyfarwyddwr - Llywodraeth Leol,
Llywodraeth Cymru 2.2 Cytunodd y Gweinidog i:
o sut yr eir i'r afael
â'r gwahaniaeth rhwng staff gofal/gwasanaethau cymdeithasol a gyflogir yn y GIG
a'r rheini mewn awdurdodau lleol o ran cyflog, telerau ac amodau, a statws; a
pha gamau eraill a gymerir i wella amodau cyflogaeth ac ansawdd gwaith ar gyfer
staff cyflogedig awdurdodau lleol yn y sector gofal/gwasanaethau cymdeithasol; o sut y mae'r
Gweinidog yn disgwyl i'r cynnydd yng Ngrant y Tasglu Gofal Cymdeithasol a
Phwysau Cynaliadwyedd gael ei ddefnyddio a'r canlyniadau a ddymunir; o a yw'r £2.3miliwn a
ddyrannwyd fel grant penodol i'r Gwasanaeth Mabwysiadu yn ddigonol, a sut y
bydd yr arian ychwanegol hwn yn arwain at ganlyniadau gwell? o sut mae Llywodraeth
Cymru yn monitro cyflawniad y gofynion a nodir yn Neddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Lles 2014? |
|
(11.00-11.45) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21: sesiwn dystiolaeth 2 Jane Hutt AC, y
Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip Gary Haggaty,
Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cymru Alyson Francis,
Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Cymunedau, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Cafodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan: · Jane Hutt AC, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip · Karin Phillips, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Diogelwch Cymunedol,
Llywodraeth Cymru · Alyson Francis, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Cymunedau, Llywodraeth
Cymru 3.2 Yn
ystod y cyfarfod, cytunodd y Gweinidog i ddarparu: · Rhagor o wybodaeth am ddatblygiad Cynllun Gwella’r Gyllideb ac, yn benodol,
y gwaith sy’n mynd rhagddo i adolygu a gwerthuso cynnydd a rhagor o fanylion am
y prif gerrig milltir; · Pryd y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl pederfynu’n derfynol ynghylch
gweithredu argymhellion y cyd-bwyllgorau mewn perthynas â chyhoeddi’r holl
asesiadau unigol o effaith mewn un lle: · Manylion ymatebion Llywodraeth Cymru i’r argymhellion perthnasol yn
adroddiad Cam 2 Chwarae Teg ar asesiadau o effaith y gyllideb; a · Rhagor o wybodaeth am y gwersi a ddysgwyd yn dilyn y cynllun peilot i
baratoi cyllidebau ar sail rhyw yn 2007 |
|
(11.45-11.50) |
Papurau i’w nodi |
|
Gohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Canfasiad Blynyddol) (Diwygio) (Cymru) 2020 - 10 Rhagfyr 2019 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Tai a
Llywodraeth Leol ynghylch Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Canfasiad
Blynyddol) (Diwygio) (Cymru) 2020. |
||
Gohebiaeth at y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch ymateb i’r adroddiad ar fudd-daliadau yng Nghymru - 16 Rhagfyr 2019 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth at y Dirprwy Weinidog
Tai a Llywodraeth Leol ynghylch yr ymateb i’r adroddiad ar fudd-daliadau yng
Nghymru. |
||
Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus at Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ynghylch Rheoli Ariannol a Llywodraethu mewn Cynghorau Cymuned - 17 Rhagfyr 2019 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.3a Nodod y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus at Tracy Burke, Llywodaeth Cymru ynghylch Rheoli
Ariannol a Llywodraethu mewn Cynghorau Cymuned. |
||
Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynghylch ei ymchwiliad i dlodi tanwydd – 18 Rhagfyr 2019 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.4a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeiryddd y
Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ynghylch eu hymchwiliad
i dlodi tanwydd: |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn ymateb i gais y Pwyllgor am wybodaeth ychwanegol yn dilyn y cyfarfod ar 27 Tachwedd – 19 Rhagfyr 2019 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.5a Nododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn ymateb i gais y
Pwyllgor am ragor o wybodaeth yn dilyn y cyfarfod ar 27 Tachwedd. |
||
Gohebiaeth at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn gofyn am ragor o wybodaeth am ddiogelwch tân yn dilyn y cyfarfod ar 5 Rhagfyr – 20 Rhagfyr 2019 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.6a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Tai a
Llywodraeth Leol yn gofyn am ragor o wybodaeth am ddiogelwch tân yn dilyn y
cyfarfod ar 5 Rhagfyr. |
||
(11.50) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod eitemau 6 a 10 Cofnodion: 5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(11.50-12.30) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21: trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o
dan eitemau 2 a 3. |
|
(13.00-13.45) |
Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru): sesiwn dystiolaeth 6 Ceri Stradling, Dirprwy
Gadeirydd, Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru Shereen Williams,
Prif Weithredwr, Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Ceri Stradling, Dirprwy Gadeirydd
Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ·
Shereen Williams, Prif Weithredwr
Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru |
|
(13.45-14.30) |
Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru): sesiwn dystiolaeth 7 Dominic
MacAskill, Rheolwr Rhanbarthol, UNSAIN Cymru Amber Courtney,
Trefnydd Datblygu Gwybodaeth, UNSAIN Cymru Mike Payne,
Uwch-drefnydd y GMB Dogfennau ategol: Cofnodion: 8.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Dominic MacAskill, Rheolwr
Rhanbarthol UNSAIN Cymru ·
Amber Courtney, Trefnydd Datblygu
Gwybodaeth UNSAIN Cymru ·
Mike Payne, Uwch Drefnydd GMB |
|
(14.30-15.15) |
Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru): sesiwn dystiolaeth 8 Sally Chapman,
Dirprwy Brif Swyddog a Swyddog Monitro, Awdurdod Tân ac Achub De Cymru Y Cynghorydd Jan
Curtice, Cadeirydd, Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Dave Daycock,
Clerc a Swyddog Monitro, Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Sally Chapman, Dirprwy Brif Swyddog
a Swyddog Monitro Awdurdod Tân ac Achub De Cymru ·
Y Cynghorydd Jan Curtice, Cadeirydd
Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ·
Dave Daycock, Clerc a Swyddog
Monitro Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru |
|
(15.15-15.30) |
Y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) drafft: trafod y dystiolaeth Cofnodion: 10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o
dan eitemau 7, 8 a 9. |