Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/01/2020 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

(09.00-12.00)

2.

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 15

Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Claire Germain, Dirprwy Gyfarwyddwr Trawsnewid a Phartneriaethau

Angharad Thomas Richards, Pennaeth Tîm Polisi Llywodraeth Leol ac Etholiadau

Lisa James, Dirprwy Gyfarwyddwyr Democratiaeth Llywodraeth Leol

Cath Wyatt, Rheolwr Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau

 

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

       Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

       Claire Germain, Dirprwy Gyfarwyddwr Trawsnewid a Phartneriaethau

       Angharad Thomas Richards, Pennaeth Tîm Polisi Llywodraeth Leol ac     Etholiadau

       Lisa James, Dirprwy Gyfarwyddwyr Democratiaeth Llywodraeth Leol

       Cath Wyatt, Rheolwr Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau

 

2.2 Yn ystod y cyfarfod, cytunodd y Gweinidog i rannu canlyniadau’r cyfarfodydd a gafodd gydag awdurdodau tân ac achub ynghylch adran 162 o’r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).

(12.00-12.05)

3.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

3.1

Gohebiaeth gan Tai Pawb, Sefydliad Tai Siartredig Cymru a Shelter Cymru ynghylch Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) - 16 Ionawr 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Tai Pawb, Sefydliad Tai Siartredig Cymru a Shelter Cymru ynghylch Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).

3.2

Gohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, y Gweinidog Cyllid a'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ynghylch gwybodaeth ychwanegol am gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21 - 21 Ionawr 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, y Gweinidog Cyllid a'r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip ynghylch gwybodaeth ychwanegol sy’n ofynnol am gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21.

3.3

Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch gwybodaeth ychwanegol am gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21 - 21 Ionawr 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3a  Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch gwybodaeth ychwanegol am Gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21. 

 

3.4

Gohebiaeth gan Gymorth Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru a Chymorth i Ferched Cymru ynghylch y Grant Cymorth Tai a Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 – 22 Ionawr 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.4a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Cymorth Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru a Chymorth i Ferched Cymru ynghylch y Grant Cymorth Tai a Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21.

(12.05)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw ac o eitemau 1 a 2 o’r cyfarfod ar 6 Chwefror 2020.

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(12.05-12.30)

5.

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru): trafod y dystiolaeth a’r materion allweddol.

Cofnodion:

5.1 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.31, canslwyd eitem 5 gan fod y cyfarfod yn un ymchwiliol.

(12.30)

6.

Y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru): trafod yr amserlen ddrafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.31, canslwyd eitem 6 gan fod y cyfarfod yn un ymchwiliol.