Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Committee Room 3
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 999KB)
Gweld fel HTML (999KB) |
||
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod. 1.2. Cafwyd
ymddiheuriadau gan Gareth Bennett AC. 1.3. Datganodd yr Aelodau a ganlyn fuddiant perthnasol fel aelodau o undebau: ·
John Griffiths AC; ·
Jenny Rathbone AC; ·
Joyce Watson AC; ·
Rhianon Passmore AC; ·
Siân Gwenllian AC. |
||
(09.15 - 10.45) |
Craffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant Jo-Anne
Daniels, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi Amelia John, Dirprwy
Gyfarwyddwr Yr Is-Adran Gymunedau Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a
Phlant ·
Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi ·
Amelia John, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Cymunedau 2.2. Cytunodd
Ysgrifennydd y Cabinet i ddarparu: ·
Ffigurau bras yn dangos sut y bydd cronfa etifeddiaeth
Cymunedau yn Gyntaf yn cael ei rhannu rhwng awdurdodau lleol gan ddangos hefyd
sut y cafodd y ffigurau eu dadansoddi; ·
Nodyn am lwyddiant Cymru ym maes trechu tlodi o’i
chymharu â gwledydd eraill, a’r Alban yn benodol; ·
Esboniad o fanylion y drefn adrodd yng nghyswllt y
dangosyddion statudol a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
(Cymru); ·
Nodyn ar y data a ddefnyddiwyd i werthuso llwyddiant
Cymunedau yn Gyntaf ac i gynllunio’r cyfnod pontio a’r dull newydd o weithredu,
gan gynnwys y dangosyddion presennol a’r dangosyddion a ddefnyddir yn y
dyfodol. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 4 Cofnodion: 3.1.
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(10.45 - 11.00) |
Craffu ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant - trafod y dystiolaeth o dan eitem 2 Cofnodion: 4.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2 a chytunodd i
ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â
materion a godwyd yn ystod y sesiwn. |
|
(11.10 - 12.10) |
Bil yr Undebau Llafur (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 2
Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Steve Thomas, Prif Weithredwr, Llywodraeth Leol Cymru, ·
Jonathan
Lloyd, Pennaeth
Cyflogaeth, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru |
|
(12.45 - 13.45) |
Bil yr Undebau Llafur (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 3
Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Dr Stephen Monaghan, Cadeirydd
Is-bwyllgor Deddfwriaeth Cyngor BMA Cymru ·
Mr Andrew Cross, Ysgrifennydd Cynorthwyol, BMA Cymru ·
Peter Meredith-Smith, Cyfarwyddwr Cyswllt ·
Lisa Turnbull, Cynghorwr Polisi a Materion Cyhoeddus, y Coleg Nyrsio
Brenhinol ·
Lien Watts, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol, Undeb y Gweithwyr
Cymdeithasol |
|
(13.45 - 14.45) |
Bil yr Undebau Llafur (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 4 ·
Margaret Thomas, Is-lywydd TUC Cymru ·
Martin Mansfield, Ysgrifennydd Cyffredinol, TUC Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Margaret Thomas, Is-lywydd, TUC Cymru ·
Martin Mansfield, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru |
|
Papurau i’w nodi |
||
Gohebiaeth at Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn dilyn y sesiwn graffu ar 2 Chwefror 2017 Dogfennau ategol: Cofnodion: 8.1. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth at Gomisiynydd
Cenedlaethau’r Dyfodol yn dilyn y materion a godwyd yn y sesiwn graffu ar 2
Chwefror 2017. |
||
Gwybodaeth ychwanegol am Clearsprings Ready Homes Ltd mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches Dogfennau ategol: Cofnodion: 8.2. Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol am Clearsprings Ready Homes Ltd
mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 9.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(14.45 - 15.00) |
Bil yr Undebau Llafur (Cymru) - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 5, 6 a 7 Cofnodion: 10.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 5, 6 a 7. |