Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF
999KB) Gweld fel HTML
(999KB) |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod. 1.2 Datganodd yr Aelodau a ganlyn fuddiannau perthnasol fel aelodau o
undebau:
|
||
(09.15 - 10.15) |
Bil yr Undebau Llafur (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 5 ·
Claire Vaughan, Cyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol,
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ·
Sarah Morley, Cyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol,
Ymddiriedolaeth GIG Felindre ·
Kate Lorenti, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Dros Dro, Bwrdd Iechyd Lleol
Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ·
Joanna Davies, Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, Bwrdd Iechyd
Prifysgol Cwm Taf Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Claire Vaughan, Cyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol,
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ·
Sarah Morley, Cyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol,
Ymddiriedolaeth GIG Felindre ·
Kate Lorenti, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Dros Dro, Bwrdd Iechyd Lleol
Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ·
Joanna Davies, Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, Bwrdd Iechyd
Prifysgol Cwm Taf 2.2 Cytunodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i ddarparu: ·
nodyn ar nifer y cyflogeion y telir eu tanysgrifiadau undeb drwy eu didynnu
o’u cyflogau (‘didynnu drwy’r gyflogres’), ac ar y costau gweinyddol sydd
ynghlwm; ·
nodyn i egluro’r ffactorau y byddent yn disgwyl iddynt gael eu hystyried
wrth bennu cost datgymhwyso’r trothwy pleidleisio o 40% i’r gwasanaeth iechyd. |
|
(10.15 - 11.15) |
Bil yr Undebau Llafur (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 6 ·
Y Cynghorydd Tudor Davies, Cadeirydd, Awdurdod Tân ac Achub De Cymru ·
Phil Haynes, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Pobl, Awdurdod Tân ac Achub De Cymru ·
Y Cynghorydd Suzanne Paddison, Aelod o'r Awdurdod Tân, Gwasanaeth Tân ac
Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ·
Kevin Jones, Prif Swyddog Adnoddau Dynol a Chyfarwyddwr Adnoddau,
Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ·
Gary Brandrick, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol, Awdurdod Tân ac Achub Gogledd
Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Y Cynghorydd Tudor Davies, Cadeirydd, Awdurdod Tân ac Achub De Cymru ·
Phil Haynes, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Pobl, Awdurdod Tân ac Achub De Cymru ·
Y Cynghorydd Suzanne Paddison, Aelod o’r Awdurdod Tân, Gwasanaeth Tân ac
Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ·
Kevin Jones, Arweinydd Adnoddau Dynol a Chyfarwyddwr Adnoddau, Gwasanaeth
Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ·
Gary Brandrick, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol, Awdurdod Tân ac Achub Gogledd
Cymru 3.2 Cytunodd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru i ddarparu
nodyn o’i Adran Gyllid ar y costau sydd ynghlwm wrth ddidynnu tanysgrifiadau
undeb o gyflogau (‘didynnu drwy’r gyflogres’). |
|
Papurau i’w nodi |
||
Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn ymwneud â ffoaduriaid a cheiswyr lloches Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros
Gymunedau a Phlant ynghylch mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches. |
||
Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn ymwneud â’r Bil yr Undebau Llafur (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.2 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a
Llywodraeth Leol mewn perthynas â Bil yr Undebau Llafur (Cymru). |
||
Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â deiseb i Wahardd Codi Ffioedd Asiantau Gosod ar Denantiaid Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.3 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn
perthynas â deiseb i Wahardd Codi Ffioedd Asiantau Gosod ar Denantiaid a
chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
ynghylch ei amserlen ar gyfer penderfynu a oes angen deddfu ar y mater. |
||
Gwybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan Gyngor Ffoaduriaid yr Alban ynghylch yr ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.4 Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan Gyngor Ffoaduriaid
yr Alban mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(11.25 - 11.45) |
Bil yr Undebau Llafur (Cymru) - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3 Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2 a 3. |
|
Bil yr Undebau Llafur (Cymru) - Ymatebion i’r ymgynghoriad Dogfennau ategol:
|
||
(11.45 - 11.55) |
Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) - trafod yr amserlen Cofnodion: 7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr amserlen ar gyfer Bil Diddymu’r Hawl i Brynu
a Hawliau Cysylltiedig (Cymru). |
|
(11.45 - 12.30) |
Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru - trafod yr adroddiad drafft Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. |