Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

1.2     Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Janet Finch-Saunders AC. Dirprwyodd David Melding AC ar ei rhan yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

 

(09.15 - 10.15)

2.

Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) - Sesiwn dystiolaeth 2

·         Stuart Ropke, Prif Weithredwr, Cartrefi Cymunedol Cymru

·         Joe Logan, Prif Weithredwr, Tai Calon

·         Ffrancon Williams, Prif Weithredwr, Cartrefi Cymunedol Gwynedd

·         Debbie Green, Prif Weithredwr, Coastal Housing

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y bobl ganlynol:

 

·       Stuart Ropke, Prif Weithredwr, Cartrefi Cymunedol Cymru

·       Joe Logan, Prif Weithredwr, Tai Calon

·       Ffrancon Williams, Prif Weithredwr, Cartrefi Cymunedol Gwynedd

·       Debbie Green, Prif Weithredwr, Coastal Housing

 

 

(10.15 - 11.15)

3.

Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 3

·         Jennie Bibbings, Rheolwr Ymgyrchoedd, Shelter Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1       Derbyniodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jennie Bibbings, Rheolwr Ymgyrchoedd, Shelter Cymru.

 

3.2     Yn ystod y sesiwn cytunodd Shelter Cymru i roi nifer yr achosion yr ymdriniwyd â nhw o ran rhentu cartrefi yn breifat, y rhai a oedd wedi eu prynu o dan yr hawl i brynu.

 

4.

Papurau i’w nodi

4.1

Gohebiaeth ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â thrais yn erbyn menywod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â thrais yn erbyn menywod.

 

4.2

Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â Chymunedau yn Gyntaf – yr hyn a ddysgwyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth  Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â Chymunedau yn Gyntaf – yr hyn a ddysgwyd.

4.3

Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus mewn perthynas â’r Papur Gwyn ‘Diwygio llywodraeth Leol: Cadernid ac adnewyddiad’

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus mewn perthynas â'r papur gwyn 'Diwygio llywodraeth leol: Cadernid ac adnewyddiad'.

 

4.4

Gohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.4.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru).

 

4.5

Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol mewn perthynas â hawliau dynol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.5.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol mewn perthynas â hawliau dynol yng Nghymru.

 

4.6

Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol mewn perthynas â diwygio llywodraeth leol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.6.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol mewn perthynas â diwygio llywodraeth leol.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

 

(11.30 - 11.45)

6.

Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3.

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3.