Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF
999KB) Gweld fel HTML
(999KB) |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1. Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. 1.2.
Cafwyd
ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins AC, Joyce Watson AC, Sian Gwenllian AC,
Gareth Bennett AC a Janet Finch-Saunders AC. Roedd David Melding AC yn dirprwyo
ar ran Janet Finch-Saunders AC yn unol â Rheol Sefydlog 17.48. |
||
(09.15 - 10.15) |
Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 4 ·
Matthew Dicks, Cyfarwyddwr, Sefydliad Tai Siartredig
Cymru ·
Matthew Kennedy, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus
(Cymru), Sefydliad Tai Siartredig Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: · Matthew Dicks,
Cyfarwyddwr Sefydliad Tai Siartredig Cymru · Matthew
Kennedy, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus (Cymru), Sefydliad Tai Siartredig
Cymru |
|
(10.15 - 11.15) |
Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 5 ·
Jim McKirdle, Swyddog Polisi Tai, Cymdeithas Llywodraeth
Leol Cymru ·
Shaun Couzens, Prif Swyddog Tai, Cyngor Bwrdeistref Sirol
Caerffili ·
Simon Inkson, Pennaeth Tai, Cyngor Sir Powys ·
Robin Staines, Pennaeth Tai, Diogelu’r Cyhoedd a Gofal a Chymorth,
Cyngor Sir Gâr Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan: · Jim McKirdle, Swyddog Polisi Tai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru · Shaun Couzens, Prif Swyddog Tai, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili · Simon Inkson, Pennaeth Tai, Cyngor Sir Powys · Robin Staines, Pennaeth Tai, Diogelu’r Cyhoedd a Gofal a Chymorth, Cyngor
Sir Gâr 3.2.
Cytunodd Robin Staines, Cyngor Sir Gâr, i ddarparu manylion pellach am y camau
a gymerwyd gan y cyngor i ymgynghori â thenantiaid a darpar denantiaid cyn
diddymu'r Hawl i Brynu, gan gynnwys nifer y darpar denantiaid a gymerodd rhan a
nifer yr ymatebion a gafwyd, a'r materion a godwyd gan yr ymatebwyr. |
|
(11.30 - 12.30) |
Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 6 ·
Steve
Clarke, Cynghorydd Polisi i Denantiaid Cymru ·
David
Lloyd, Dirprwy Gyfarwyddwr, TPAS Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: · Steve Clarke,
Cynghorydd Polisi, Tenantiaid Cymru · David Lloyd,
Dirprwy Gyfarwyddwr, TPAS |
|
Papurau i’w nodi |
||
Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ynghylch Papur Gwyn Bil y Diddymu Mawr Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol
a Deddfwriaeth Ychwanegol ynghylch Papur Gwyn Bil y Diddymu Mawr. |
||
Gohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynghylch Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.2.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau
a Phlant ynghylch Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru). |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o'r cyfarfod ar 17 Mai 2017 Cofnodion: 6.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(12.30 - 13.00) |
Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2, 3 a 4 Cofnodion: 7.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2, 3 a 4 a
chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
ynglŷn â'r materion a godwyd. |