Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod

1.2       Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth Rhianon Passmore AC a Janet Finch-Saunders AC. Dirprwyodd David Melding AC ar ran Janet Finch-Saunders AC yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

 

(09.05 - 10.05)

2.

Ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 1

Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Steve Rossiter, Rheolwr Ardal / T, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Iwan Cray, Rheolwr Ardal, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·       Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

·       Steve Rossiter, Rheolwr Ardal / T, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

·       Iwan Cray, Rheolwr Ardal, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

2.2 Cytunodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i ddarparu manylion ynghylch nifer yr ymweliadau a gynhaliwyd mewn perthynas â thyrrau o fflatiau y mae ganddynt o leiaf wyth llawr.

 

(10.05 - 11.05)

3.

Ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 2

Matt Dicks, Cyfarwyddwr, Sefydliad Tai Siartredig Cymru

Gareth John, Ymgynghorydd ar ei liwt ei hun, y Sefydliad Siartredig Adeiladu

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Matt Dicks, Cyfarwyddwr, Sefydliad Tai Siartredig Cymru

·         Gareth John, Ymgynghorydd ar ei liwt ei hun, y Sefydliad Siartredig Adeiladu

·         Steven Crane-Jenkins, Swyddog Polisi (Cymru), y Sefydliad Siartredig Adeiladu

 

(11.15 - 12.15)

4.

Ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 3

Steve Clarke, Rheolwr Gyfarwyddwr, Tenantiaid Cymru

David Wilton, Cyfarwyddwr, TPAS

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·       Steve Clarke, Rheolwr Gyfarwyddwr, Tenantiaid Cymru

·       David Wilton, Cyfarwyddwr, TPAS

 

(13.00 - 14.00)

5.

Ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 4

Tony Jones, Cyngor Sir y Fflint, Rheolwr Tîm Gwaith Cyfalaf, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Sarah McGill, Caerdydd, Prif Swyddog Corfforaethol dros Gymunedau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Colin Blackmore, Caerdydd, Rheolwr Gwella Ystadau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Martin Nicholls, Cyngor Abertawe, Cyfarwyddwr Lleoedd, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Y Cynghorydd Clive Lloyd, Dirprwy Arweinydd Cyngor Abertawe

 

 

 

Cofnodion:

5.1.    Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Tony Jones, Rheolwr Tîm Gwaith Cyfalaf, Cyngor Sir y Fflint

·         Sarah McGill, Prif Swyddog Corfforaethol dros Gymunedau, Cyngor Caerdydd

·         Colin Blackmore, Rheolwr Gwella Ystadau, Cyngor Caerdydd

·         Martin Nicholls, Cyfarwyddwr Lleoedd, Dinas a Sir Abertawe
Y Cynghorydd Clive Lloyd, Dirprwy Arweinydd Cyngor Abertawe

 

(14.00 - 15.00)

6.

Ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 5

Stuart Ropke, Prif Weithredwr, Cartrefi Cymunedol Cymru

Ceri Doyle, Prif Weithredwr, Cartrefi Dinas Casnewydd

Mike Owen, Prif Weithredwr, Cartrefi Cymoedd Merthyr

Tim Beckingsale, Cyfarwyddwr Rheoli Asedau Dros Dro, Grŵp Pobl

Alan Brunt, Prif Weithredwr, Tai Cymunedol Bron Aron

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·       Stuart Ropke, Prif Weithredwr, Cartrefi Cymunedol Cymru

·       Ceri Doyle, Prif Weithredwr, Cartrefi Dinas Casnewydd

·       Mike Owen, Prif Weithredwr, Cartrefi Cymoedd Merthyr

·       Tim Beckingsale, Cyfarwyddwr Rheoli Asedau Dros Dro, Grŵp Pobl

·       Alan Brunt, Prif Weithredwr, Tai Cymunedol Bron Aron

 

7.

Papurau i’w nodi

7.1

Darparwyd gwybodaeth ychwanegol gan y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i wneud Ymarfer Corff mewn perthynas â dulliau yn seiliedig ar asedau i leihau tlodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff mewn perthynas â dulliau yn seiliedig ar asedau o leihau tlodi

 

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o'r cyfarfod ar 18 Gorffennaf 2017

(15.00 - 15.30)

9.

Ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru - Trafod y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2, 3, 4, 5 a 6

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunwyd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynglŷn â nifer o faterion a godwyd.