Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb yn ystod eitemau 5-8 gan Janet Finch-Saunders AC. Roedd David Melding AC yn bresennol fel dirprwy ar gyfer Janet yn ystod eitem 8.

1.3        Cafwyd datganiad o fuddiant gan Janet Finch-Saunders AC fel perchennog eiddo.

 

(10.05 - 11.05)

2.

Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel – sesiwn dystiolaeth 7

Dr Sharon Wright, Uwch-ddarlithydd mewn Polisi Cyhoeddus, Astudiaethau Trefol, Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol a Gwleidyddol Prifysgol Glasgow

Dr Lisa Scullion, Darllenydd mewn Polisi Cymdeithasol, Prifysgol Salford

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Dr Sharon Wright, Uwch-ddarlithydd mewn Polisi Cyhoeddus, Astudiaethau Trefol, Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol a Gwleidyddol Prifysgol Glasgow

·         Dr Lisa Scullion, Darllenydd mewn Polisi Cymdeithasol, Prifysgol Salford

 

(11.15 - 12.15)

3.

Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel – sesiwn dystiolaeth 8

Ed Evans, Cyfarwyddwr, y Gymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil

Andrew Marchant, Cadeirydd, Cynghrair Ffederasiwn Adeiladu Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Ed Evans, Cyfarwyddwr, y Gymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil

·         Andrew Marchant, Cadeirydd, Cynghrair Ffederasiwn Adeiladu Cymru

 

3.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd Cynghrair Ffederasiwn Adeiladu Cymru i ddarparu canlyniadau'r ymarferion Rhyddid Gwybodaeth a wnaed yn 2014 a 2016, a oedd yn gofyn am wybodaeth am gyrff cyhoeddus nad oeddent yn cydymffurfio â pholisïau moesegol Llywodraeth Cymru.

 

(13.00 - 14.00)

4.

Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel – sesiwn dystiolaeth 9

Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Sue Moffatt, Cyfarwyddwr, Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

·         Sue Moffatt, Cyfarwyddwr, y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol

 

5.

Papur(au) i'w nodi

5.1

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynghylch Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynghylch Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru).

 

5.2

Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2.a Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19.

 

5.3

Gwybodaeth ychwanegol gan Oxfam am ymagweddau'n seiliedig ar asedau tuag at leihau tlodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19.

 

5.4

Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynghylch diogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.4.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynghylch diogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru.

 

5.5

Llythyr gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ynghylch hawliau dynol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.5.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ynghylch hawliau dynol yng Nghymru.

 

5.6

Llythyr gan y Llywydd ynghylch Gweithredu Deddf Cymru 2017

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.6.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Llywydd ynghylch Gweithredu Deddf Cymru 2017.

 

5.7

Llythyr gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.7.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Llywydd ynghylch Gweithredu Deddf Cymru 2017.

 

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(14.00 - 14.20)

7.

Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel – trafod y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2, 3 a 4

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2, 3 a 4 a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynghylch nifer o faterion a godwyd.

 

(14.20 - 14.30)

8.

Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) - Trefn Ystyried - cytuno mewn egwyddor cyn trafodion Cyfnod 2

Cofnodion:

8.1 Cyn y ddadl Cyfnod 1 ar 5 Hydref a chyn cytuno ar egwyddorion cyffredinol Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru), cytunodd y Pwyllgor, mewn egwyddor, ar y drefn a ganlyn ar gyfer trafodion Cyfnod 2:

 

-     Adrannau 2 i 6

-     Atodlen 1 (a gyflwynir gan adran 6)

-     Adrannau 7 i 12

-     Adran 1 (Trosolwg o'r Bil).

-     Teitl hir