Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/12/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

1.2       Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Bethan Jenkins AC, Jenny Rathbone AC, Gareth Bennett AC a Mick Antoniw AC.

 

1.3     Cafwyd datganiad o fuddiant perthnasol gan Janet Finch Saunders AC.

 

(09.15 - 10.15)

2.

Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru): sesiwn dystiolaeth 2

Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Katrin Shaw, Cyfarwyddwr Llywodraethu, Cyfraith a Pholisi

Chris Vinestock, Cyfarwyddwr Ymchwiliadau a Phrif Swyddog Gweithredu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·       Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

·       Katrin Shaw, Cyfarwyddwr Polisi, Materion Cyfreithiol a Llywodraethu

·       Chris Vinestock, Cyfarwyddwr Ymchwiliadau a Phrif Swyddog Gweithredu

 

(10.30 - 11.30)

3.

Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru): sesiwn dystiolaeth 3

Ruth Friel, Pennaeth Profiad y Claf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Shan Kennedy, Pennaeth Ymchwil ac Iawndal, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr

Denise Williams, Uwch-reolwr Adrodd Allanol, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr

Angela Hughes, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro ar gyfer Profiad y Claf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Chadeirydd y grŵp Gwrando a Dysgu o Adborth Cymru Gyfan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·       Ruth Friel, Pennaeth Profiad y Claf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

·       Shan Kennedy, Pennaeth Ymchwil ac Iawndal, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr

·       Denise Williams, Uwch-reolwr Adrodd Allanol, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr

·       Angela Hughes, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro ar gyfer Profiad y Claf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Chadeirydd y grŵp Gwrando a Dysgu o Adborth Cymru Gyfan

 

(11.30 - 12.30)

4.

Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru): sesiwn dystiolaeth 4

Rosemary Agnew, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban

Marie Anderson, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Gogledd Iwerddon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·       Rosemary Agnew, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban

·       Marie Anderson, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Gogledd Iwerddon

 

4.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Gogledd Iwerddon i ddarparu'r eitemau a ganlyn:

·       Copi o'r papur a gyhoeddwyd ynghylch yr arbedion a wnaed mewn perthynas ag adnoddau ymchwilio o ganlyniad i'r drefn o gynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun;

·       Copi o'r adroddiad, “Mapping the administrative justice landscape”, a gyhoeddwyd yn 2014;

·       Y fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau mewn perthynas â chynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun.

 

4.3 Yn ystod y sesiwn, cytunodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban i ddarparu rhagor o wybodaeth am yr egwyddorion a bennwyd gan y Senedd sy'n sail i'r gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer ymdrin â chwynion.

 

(13.15 - 14.15)

5.

Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru): sesiwn dystiolaeth 5

Disa Young, Pennaeth Materion Allanol, Cymdeithas Gofal Iechyd Annibynnol Cymru

Jacky Jones, Dirprwy Gadeirydd Cymdeithas Gofal Iechyd Annibynnol Cymru a Chyfarwyddwr Gweithredol BMI Werndale

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·       Disa Young, Pennaeth Materion Allanol, Cymdeithas Gofal Iechyd Annibynnol Cymru

·       Jacky Jones, Dirprwy Gadeirydd Cymdeithas Gofal Iechyd Annibynnol Cymru a Chyfarwyddwr Gweithredol BMI Werndale

 

6.

Papurau i’w nodi

6.1

Llythyr gan Cymorth i Fenywod Bangor a’r Cylch mewn cysylltiad â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Cymorth i Fenywod Bangor a’r Cylch mewn cysylltiad â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19.

 

6.2

Llythyr gan Adam Price AC mewn cysylltiad ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Adam Price AC mewn cysylltiad ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

6.3

Llythyr gan Gomisiynydd y Gymraeg mewn cysylltiad â gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg a darpariaeth addysg blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gomisiynydd y Gymraeg mewn cysylltiad â gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg a darpariaeth addysg blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

6.4

Llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio mewn cysylltiad â gwneud i'r economi weithio i bobl sydd ag incwm isel

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.4.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio mewn cysylltiad â gwneud i'r economi weithio i bobl sydd ag incwm isel.

 

6.5

Gwybodaeth ychwanegol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynghylch y gwaith craffu ar yr adroddiad blynyddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.5.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynghylch y gwaith craffu ar yr adroddiad blynyddol.

 

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

7.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(14.15 - 14.30)

8.

Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: ystyried y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2, 3, 4 a 5