Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Committee Room 3

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/01/2018 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

2.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(10.35 - 10.50)

3.

Ymchwiliad i gysgu ar y stryd yng Nghymru: trafod cwmpas a dull gweithredu

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl a dull y Pwyllgor o gynnal yr ymchwiliad.

 

(10.50 - 11.00)

4.

Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ymosodiadau ar Weithwyr y Gwasanaethau Brys (Troseddau)

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Y Bil Ymosodiadau ar Weithwyr y Gwasanaethau Brys (Troseddau) a chytunodd i ddrafftio adroddiad arno.

 

(11.00 - 12.00)

5.

Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru): sesiwn dystiolaeth 9

Daniel Hurford, Pennaeth Polisi (Gwella a Llywodraethu), Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Davina Fiore, Cyfarwyddwr Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol, Cyngor Caerdydd

Liz Withers, Pennaeth Polisi ac Ymgyrchoedd, Cymru, Cyngor ar Bopeth

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Daniel Hurford, Pennaeth Polisi (Gwella a Llywodraethiant), Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)

·         Davina Fiore, Cyfarwyddwr Llywodraethiant a Gwasanaethau Cyfreithiol, Cyngor Caerdydd

·         Liz Withers, Pennaeth Polisi ac Ymgyrchoedd Cymru, Cyngor ar Bopeth

 

5.2        Yn ystod y sesiwn, cytunodd CLlLC i ddarparu nodyn ar:

·         Y darpariaethau yn y Bil ar gyfer ymchwiliadau ar ei liwt ei hun mewn perthynas â goblygiadau chwythu'r chwiban;

·         Y gwasanaeth ffôn a ddarperir gan awdurdodau lleol ar gyfer cwynion llafar, a chyfran y cwynion llafar a wneir i awdurdodau lleol, os ydynt ar gael;

·         Eu barn am oblygiadau ariannol ymchwiliadau i gwynion, yng nghyd-destun llwybr cyhoeddus/preifat.

 

5.3 Yn dilyn y sesiwn, cytunodd y Pwyllgor i ofyn am nodyn gan Cyngor ar Bopeth ynghylch y posibilrwydd o gynnwys Tribiwnlysoedd i Atodlen 3 y Bil, a'r rhesymau dros dynnu sylw at hyn fel bwlch posibl.

 

 

(12.00 - 13.00)

6.

Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru): sesiwn dystiolaeth 10

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethu, Llywodraeth Cymru

Nick Howard, Lawyer, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

·         David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethiant, Llywodraeth Cymru

·         Nick Howard, Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

 

6.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ddarparu:

·         Rhagor o wybodaeth am ei farn mewn perthynas ag Adran 40;

·         Ei farn ar ddrafftio technegol darpariaethau mewn perthynas â chwynion llafar.

 

7.

Papur(au) i'w nodi

7.1

Gwybodaeth ychwanegol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Gogledd Iwerddon mewn perthynas â’r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Gogledd Iwerddon mewn perthynas â'r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).

 

7.2

Gwybodaeth ychwanegol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban mewn perthynas â’r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban mewn perthynas â'r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).

 

7.3

Gwybodaeth ychwanegol gan Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru mewn perthynas â’r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.3.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) mewn perthynas â'r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).

 

7.4

Gwybodaeth ychwanegol gan Hospice UK mewn perthynas â’r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.4.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Hospice UK mewn perthynas â'r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).

 

7.5

Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol mewn perthynas â Hawliau Dynol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.5.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol mewn perthynas â Hawliau Dynol yng Nghymru.

 

7.6

Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn ymwneud â Hawliau Dynol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.6.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn ymwneud â Hawliau Dynol yng Nghymru.

 

7.7

Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ymwneud â Hawliau Dynol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.7.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gydgysylltydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ymwneud â Hawliau Dynol yng Nghymru.

 

7.8

Llythyr at Gadeirydd y Cydbwyllgor Hawliau Dynol yn ymwneud â Hawliau Dynol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.8.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Gadeirydd y Cydbwyllgor ar Hawliau Dynol yn ymwneud â Hawliau Dynol yng Nghymru.

 

7.9

Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb yn ymwneud as â Hawliau Dynol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.9.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Menwyod a Chydraddoldeb yn ymwneud â Hawliau Dynol yng Nghymru.

 

7.10

Llythyr at Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip yn ymwneud â Hawliau Dynol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.10.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip yn ymwneud â Hawliau Dynol yng Nghymru.

 

7.11

Adroddiad Cymorth i Fenywod Cymru ar Gyflwr y Sector: cyflwr gwasanaethau arbenigol yn ymwneud â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru, 2017

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.11.a Nododd y Pwyllgor adroddiad Cymorth i Fenywod Cymru ar Gyflwr y Sector: cyflwr gwasanaethau arbenigol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru, 2017.

 

(13.00 - 13.15)

8.

Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru): trafod y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 5 a 6

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 5 a 6.