Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 19/04/2018 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Rhianon Passmore AC a Jack Sargeant AC.

 

 

(09.15 - 10.15)

2.

Ymchwiliad i feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 1

Dr Alison Parken, Aelod o Bwyllgor Cymru, Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Rosalind Bragg, Cyfarwyddwr, Maternity Action

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Dr Alison Parken, Aelod o Bwyllgor Cymru, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

·         Rosalind Bragg, Cyfarwyddwr, Maternity Action

 

2.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i ddarparu:

·         trosolwg o'r mesurau cyfreithiol i ddiogelu menywod rhag gwahaniaethu o ganlyniad i feichiogrwydd a mamolaeth.

 

2.3 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a Maternity Action i ddarparu:

·         enghreifftiau o arfer da o wledydd eraill lle y mae cyflogwyr yn cynnal perthnasoedd cadarnhaol â gweithwyr yn ystod eu beichiogrwydd a'u cyfnod mamolaeth;

·         atebion ysgrifenedig i gwestiynau nad oedd amser i'w gofyn yn ystod y cyfarfod, gan gynnwys:

– a yw cyngor ar yrfaoedd wedi ei deilwra'n ddigonol i helpu menywod sy'n ymuno â’r byd gwaith neu'n dychwelyd iddo ar ôl cael plentyn;

– sut y gall rhaglenni cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru gefnogi mamau hunangyflogedig;

– unrhyw wybodaeth bellach ar y Cynllun Gweithredu Economaidd a'r Cynllun Cyflogadwyedd.

 

(10.30 - 11.30)

3.

Ymchwiliad i feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 2

Cerys Furlong, Prif Weithredwr, Chwarae Teg

Catherine Fookes, Cyfarwyddwr, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Cerys Furlong, Prif Weithredwr, Chwarae Teg

·         Catherine Fookes, Cyfarwyddwr, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru

 

 

(11.30 - 12.30)

4.

Ymchwiliad i feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 3

Emma Webster, Cyd Prif Swyddog Gweithredol ac Uwch Gyfreithiwr, Your Employment Settlement Service

James Moss, Partner, Slate Legal

Bethan Darwin, Partner, Thompson Darwin Law

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Emma Webster, Cyd Prif Swyddog Gweithredol ac Uwch Gyfreithiwr, Your Employment Settlement Service

·         James Moss, Partner, Slate Legal

·         Bethan Darwin, Partner, Thompson Darwin Law

 

 

5.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

5.1

Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg  at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19.

 

5.2

Llythyr at y Prif Weinidog mewn perthynas â hawliau dynol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr at y Prif Weinidog mewn perthynas â hawliau dynol yng Nghymru.

 

5.3

Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Senedd yr Alban, mewn perthynas â hawliau dynol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Senedd yr Alban, mewn perthynas â hawliau dynol yng Nghymru.

 

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

 

(12.30 - 12.45)

7.

Ymchwiliad i feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith yng Nghymru – trafod y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2, 3 a 4

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2, 3 a 4.

 

(12.45 - 12.55)

8.

Trafod llythyr mewn perthynas ag adnoddau ar gyfer craffu ar Brexit

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr a chytunwyd arno.

 

9.

Ymchwiliad i Feichiogrwydd, Mamolaeth a Gwaith yng Nghymru: Ymatebion i’r Ymgynghoriad