Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/05/2018 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

1.2        Cafwyd ymddiheuriad gan Jack Sargeant AC.

 

 

(09.30 - 10.30)

2.

Ymchwiliad i feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 7

Alison Thomas, Swyddog Cysylltiadau Cyflogeion, Ffatri Foduron Pen-y-bont ar Ogwr, Ford

Vicki Spencer-Francis, Rheolwr Gyfarwyddwr a Sylfaenydd, Cowshed

Alex Currie, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, Go Compare

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Allison Thomas, Swyddog Cysylltiadau Gweithwyr, Peiriannau Injan Pen-y-bont ar Ogwr, Ford

·         Vicki Spencer-Francis, Rheolwr Gyfarwyddwr a Sylfaenydd, Cowshed

·         Alex Currie, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, Go Compare

 

 

 

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 4 a 6 o'r cyfarfod heddiw, ac o'r cyfarfod ar 17 Mai 2018

Cofnodion:

3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

 

(10.45 - 11.30)

4.

Ymchwiliad i amrywiaeth ym maes llywodraeth leol - trafod dull gweithredu'r ymchwiliad

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull o gynnal yr ymchwiliad, a chytunwyd ar y cylch gorchwyl. 

 

(11.30 - 12.30)

5.

Ymchwiliad i feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 8

Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Marcella Maxwell, Pennaeth Cynllun Gweithredu ar yr Economi, Llywodraeth Cymru

Rachel Garside-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyflogadwyedd a Sgiliau, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

·         Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

·         Marcella Maxwell, Pennaeth Gweithredu'r Cynllun Gweithredu Economaidd, Llywodraeth Cymru

·         Rachel Garside-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyflogadwyedd a Sgiliau, Llywodraeth Cymru

 

5.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ddarparu:

·         canran y patrymau gweithio hyblyg, a nifer y dynion sy'n manteisio ar absenoldeb a rennir gan rieni, yn Llywodraeth Cymru;

·         nodyn ynghylch unrhyw hyfforddiant ar recriwtio diduedd y gellir ei gynnig i fusnesau bach fel rhan o'r Contract Economaidd.

 

 

(12.30 - 12.40)

6.

Ymchwiliad i feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith yng Nghymru - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2 a 5

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 5.