Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/06/2018 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

1.2     Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Rhianon Passmore AC. Roedd Joyce Watson AC yn dirprwyo ar ran Rhianon. Roedd David Melding AC yn bresennol fel dirprwy ar ran Janet Finch-Saunders AC ar gyfer eitemau 1, 2 a 3 y cyfarfod.

 

(09.30 - 11.00)

2.

Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd ac ati) (Cymru) – Sesiwn dystiolaeth 1

Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Tai ac Adfywio

Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Polisi Tai, Llywodraeth Cymru

Neil Buffin, Uwch Gyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

Huw Charles, Rheolwr y Bil, Llywodraeth Cymru

 

Y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru)

Memorandwm Esboniadol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio

·         Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Polisi Tai, Llywodraeth Cymru

·         Neil Buffin, Uwch Gyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

·         Huw Charles, Rheolwr y Bil, Llywodraeth Cymru

 

2.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r wybodaeth a ganlyn:

·         asesiad o'r dystiolaeth a drafodwyd yn San Steffan wrth graffu ar y Bil Ffioedd Tenantiaid, a oedd yn nodi cynnydd o 4.2 y cant mewn rhent yn yr Alban pan basiwyd deddfwriaeth gyfatebol o'i gymharu â gostyngiad o 0.7 y cant yn Lloegr yn ystod yr un cyfnod;

·         gwybodaeth yn nodi a yw'r ddarpariaeth yn Atodlen 2, paragraff 3, is-is-baragraff (b) yn ddigonol i ymdrin ag achosion pan fydd landlord/asiantaeth yn torri'r cytundeb hwn, yn enwedig mewn achosion pan fydd myfyrwyr yn sicrhau eiddo fisoedd cyn iddynt symud i mewn i'r eiddo hwnnw ac mae'r cytundeb yn amodol ar waith pellach gan y landlord; a

·         gwybodaeth ychwanegol yn nodi a ddylai dirwyon a roddir gan y Llysoedd i'r rhai sy'n torri rhwymedigaethau'r Bil fynd i awdurdodau lleol, fel sy'n digwydd gyda hysbysiadau cosb benodedig.

 

2.3 Ar ddiwedd y sesiwn, cytunodd y Cadeirydd y byddai'r Pwyllgor yn ysgrifennu at y Gweinidog gyda chwestiynau nas cyrhaeddwyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth.

 

3.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

3.1

Llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio ynghylch diogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio ynghylch tyrau o fflatiau yng Nghymru a chytunodd i ymateb i'r llythyr mewn perthynas â sawl mater.

 

3.2

Sylwadau rhanddeiliaid ar lythyr y Prif Weinidog ynghylch hawliau dynol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2.a Nododd y Pwyllgor farn rhanddeiliaid ar lythyr y Prif Weinidog ynghylch hawliau dynol yng Nghymru.

 

3.3

Ymateb gan Gynghrair Ffoaduriaid Cymru i Gynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru, Cenedl Noddfa – Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3.a Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Gynghrair Ffoaduriaid Cymru i Gynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru, Cenedl Noddfa – Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o’r cyfarfod ar 27 Mehefin 2018

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

 

(11.10 - 11.25)

5.

Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd ac ati) (Cymru) – Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2.

 

(11.25 - 12.25)

6.

Ymchwiliad i feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith yng Nghymru – Trafod y prif faterion

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y materion allweddol sydd i'w cynnwys yn ei adroddiad.