Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/10/2018 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

1.2. Roedd David Melding AC yn bresennol, yn dirprwyo ar ran Mark Isherwood AC ar gyfer eitem 8. 

 

(09.00 - 10.30)

2.

Ymchwiliad i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus: sesiwn dystiolaeth 6

Alun Davies AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Claire Bennett, Dirprwy Gyfarwyddwr, Trawsnewidiaeth a Phartneriaethau Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

Claire Germain, Pennaeth Partneriaethau Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Alun Davies AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

·       Claire Bennett, Dirprwy Gyfarwyddwr, Trawsnewidiaeth a Phartneriaethau Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

·       Claire Germain, Pennaeth Partneriaethau Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

 

2.2. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus i roi nodyn ar sut mae Llywodraeth Cymru yn adolygu'r partneriaethau rhwng Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol.

 

 

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

3.1. Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

(10.40 - 10.55)

4.

Ymchwiliad i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2

Cofnodion:

4.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2.

 

 

 

 

(10.55 - 11.25)

5.

Ymchwiliad i hawliau pleidleisio i garcharorion: trafod dull gweithredu'r ymchwiliad

Cofnodion:

5.1. Trafododd y Pwyllgor ei ddull craffu a chytunodd arno.

 

(11.25 - 11.55)

6.

Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru): trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

6.1. Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft a chytunodd arno, yn amodol ar fân newidiadau.