Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 27/03/2019 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

(09:30-10:30)

2.

Ymchwiliad i hawliau pleidleisio i garcharorion: sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Lisa James, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol

Gareth Thomas, Cynghorydd Polisi, Diwygio Etholiadol (Is-adran Llywodraeth Leol)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Julie James, Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

·       Lisa James, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol

·       Gareth Thomas, Cynghorydd Polisi, Diwygio Etholiadol (Is-adran Llywodraeth Leol)

2.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i roi gwybodaeth i'r Pwyllgor ynghylch pa gamau y gellid eu cymryd pe bai carchar yn Lloegr yn penderfynu peidio â chydweithredu ag unrhyw newid posibl yn y gyfraith i alluogi carcharorion o Gymru i bleidleisio.   

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitemau 4, 7 a 8

Cofnodion:

3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(10:30-10:40)

4.

Hawliau pleidleisio i garcharorion: trafod y dystiolaeth lafar

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2.

 

(10:50-12:05)

5.

Craffu ar waith Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol: craffu blynyddol

Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Marie Brousseau-Navarro, Cyfarwyddwr Polisi, Deddfwriaeth ac Arloesi

 

Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru - Adroddiad Blynyddol 2017-2018

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

·       Marie Brousseau-Navarro, Cyfarwyddwr Polisi, Deddfwriaeth ac Arloesi

5.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol i ddarparu'r wybodaeth ganlynol:

·       manylion ynghylch y ffordd y mae KeolisAmey wedi nodi y mae'n anelu at gyflawni'r nodau llesiant;

·       manylion y gwaith sy'n cael ei wneud gan fyrddau iechyd a llywodraeth leol i gyflawni'r nodau llesiant; a

·       copi o'r rhaglen waith ar y cyd y mae'n ei pharatoi gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru ar feysydd blaenoriaeth.

 

 

6.

Papurau i’w nodi

7.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynglŷn â chytundeb perthnasau rhyng-sefydliadol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru.

 

6.1

Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit mewn perthynas â'r ymchwiliad i hawliau pleidleisio i garcharorion (Saesneg yn unig)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit mewn perthynas â'r ymchwiliad i hawliau pleidleisio i garcharorion.

 

(12:05-12:15)

7.

Gwaith craffu blynyddol ar waith Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol: trafod y dystiolaeth lafar

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 5.

7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ynghylch materion y mae'n dymuno eu trafod ymhellach.

 

 

(12:15-12:25)

8.

Ymchwiliad i eiddo gwag ac ail gartrefi: papur cwmpasu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y papur cwmpasu a'i gytuno.