Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/04/2019 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

1.2       Cafwyd ymddiheuriadau gan Carwyn Jones AC a Jenny Rathbone AC.

 

(09:30-10:30)

2.

Ymchwiliad i Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu: sesiwn dystiolaeth 2

Samuel Stone, Swyddog Materion Allanol, Cymdeithas Awtistiaeth Cymru

Huw Owen, Swyddog Polisi, Cymdeithas Alzheimer’s Cymru

Helen Powell, Cynghorydd Cymorth Arbenigol, Rhaglen Cyngor ar Fudd-daliadau, Cymorth Canser Macmillan Cymru

Martin Fidler Jones, Swyddog Polisi, Gofal Canser Tenovus

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Samuel Stone, Swyddog Materion Allanol, Cymdeithas Awtistiaeth Cymru

·       Huw Owen, Swyddog Polisi, Cymdeithas Alzheimer Cymru

·       Helen Powell, Cynghorydd Cymorth Arbenigol, Rhaglen Cyngor ar Fudd-daliadau, Cymorth Canser Macmillan Cymru

·       Martin Fidler Jones, Swyddog Polisi, Gofal Canser Tenovus.

 

2.2 Cytunodd y tystion i ysgrifennu at y Pwyllgor i roi enghreifftiau o Awdurdodau Lleol sy'n dangos arfer da mewn gweithdrefnau asesu.

 

 

(10:30-11:20)

3.

Ymchwiliad i Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu: sesiwn dystiolaeth 3

Valerie Billingham, Rheolwr Polisi ac Ymgyrchoedd, Age Cymru

Kate Young, Cyfarwyddwr, Fforwm Cymru Gyfan Rhieni a Gofalwyr Pobl ag Anableddau Dysgu

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Valerie Billingham, Rheolwr Polisi ac Ymgyrchoedd, Age Cymru

·       Kate Young, Cyfarwyddwr, Fforwm Cymru Gyfan Rhieni a Gofalwyr Pobl ag Anableddau Dysgu.

 

(11:30-12:20)

4.

Ymchwiliad i Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu: sesiwn dystiolaeth 4

Andrew Meredith, Arweinydd Tîm Gwasnaethau i Gwsmeiriaid, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Rhys J. Page, Uwch Reolwr Busnes, Cyngor Sir Caerfyrddin

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Andrew Meredith, Arweinydd Tîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

·       Rhys J. Page, Uwch Reolwr Busnes, Cyngor Sir Caerfyrddin.

 

 

5.

Papurau i’w nodi

5.1

Ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag ymgysylltu â grwpiau dioddefwyr yng nghyd-destun hawliau carcharorion i bleidleisio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1a Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth yr Alban mewn perthynas ag ymgysylltu â grwpiau dioddefwyr yng nghyd-destun pleidleisio i garcharorion.

 

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(10:30-11:20)

7.

Ymchwiliad i Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu: trafod y dystiolaeth lafar

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2, 3 a 4.

 

(12:30-13:30)

8.

Ymchwiliad i hawliau pleidleisio i garcharorion: Papur ar y materion allweddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Derbyniodd y Pwyllgor y papur ar y materion allweddol ar yr ymchwiliad i hawliau pleidleisio i garcharorion.