Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/07/2019 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

(09.30 - 11.00)

2.

Ymchwiliad i eiddo gwag: sesiwn dystiolaeth 6

Hannah Blythyn AC, Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol

Ian Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr Cartrefi a Lleoedd, Llywodraeth Cymru

Vivienne Lewis, Rheolwr Gorfodaeth a Benthyciadau Adfywio, Yr Is-adran Cartrefi a Lleoedd, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Hannah Blythyn AC, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol

·       Ian Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr Cartrefi a Lleoedd, Llywodraeth Cymru

·       Vivienne Lewis, Rheolwr Gorfodaeth a Benthyciadau Adfywio, Yr Is-adran Cartrefi a Lleoedd, Llywodraeth Cymru

 

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor i gael gwybodaeth ychwanegol am yr arolwg a gynhaliwyd gan swyddogion ynghylch y pwerau a ddefnyddir gan awdurdodau lleol i ailddechrau defnyddio eiddo gwag. Cytunodd y Gweinidog hefyd i ddarparu gwybodaeth am y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw perchnogion eiddo yn gallu osgoi talu cyfradd premiwm y dreth gyngor.

 

 

(11.00 - 11.05)

3.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

3.1

Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip ynghylch gweithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 – 4 Gorffennaf 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ynghylch gweithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

 

3.2

Gohebiaeth i’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch yr ymchwiliad i fudd-daliadau yng Nghymru - 10 Gorffennaf 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth i'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch yr ymchwiliad i fudd-daliadau yng Nghymru.

 

(11.05)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(11.05 - 11.40)

5.

Ymchwiliad i eiddo gwag: ystyried y dystiolaeth a materion o bwys

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2. Bu'r Pwyllgor hefyd yn trafod ac yn cytuno ar y materion allweddol ar gyfer yr ymchwiliad i eiddo gwag.

 

(11.40 - 12.20)

6.

Budd-daliadau yng Nghymru: opsiynau i’w cyflawni’n well – trafod y materion o bwys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol ar gyfer yr ymchwiliad i fudd-daliadau yng Nghymru, a chytunodd arnynt.

 

(12.20 - 12.30)

7.

Trafodaeth ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenoriaethau ar gyfer Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21, a chytunodd arnynt. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i gadw capasiti yn rhaglen waith yr hydref i allu cynnwys unrhyw newidiadau i amserlen y gyllideb.