Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 27/11/2019 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.  

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Caroline Jones. 

 

(09.00 - 11.00)

2.

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru): sesiwn dystiolaeth 1

Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cath Wyatt, Rheolwr Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau

Claire Germain, Dirprwy Gyfarwyddwr Trawsnewid a Phartneriaethau

Angharad Thomas Richards, Pennaeth Tîm Polisi Llywodraeth Leol ac Etholiadau

Lisa James, Dirprwy Gyfarwyddwyr Democratiaeth Llywodraeth Leol

 

Papurau:

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) - Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

·         Cath Wyatt, Rheolwr Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau

·         Claire Germain, Dirprwy Gyfarwyddwr Trawsnewid a Phartneriaethau

·         Angharad Thomas Richards, Pennaeth Tîm Polisi Llywodraeth Leol ac Etholiadau

·         Lisa James, Dirprwy Gyfarwyddwyr Democratiaeth Llywodraeth Leol

 

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor er mwyn darparu rhagor o fanylion ar y materion a ganlyn:  

  • unrhyw ddadansoddiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chynlluniau deisebau, y cynnydd posibl yn y defnydd a wneir ohonynt gan y cyhoedd, a’r goblygiadau cost i’r prif gynghorau dros y tymor hir.
  • yr amserlen ar gyfer cyd-gynhyrchu unrhyw ganllawiau a threfniadau rheoleiddio a gaiff eu creu gan y Bil.
  • enghreifftiau neu dystiolaeth o drefniadau hunanasesu effeithiol sydd ar waith ar draws y byd ar hyn o bryd.

 

 

 

(11.00 - 11.05)

3.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

3.1

Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru - Cynnydd o ran rhoi'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1a Nododd y Pwyllgor yr adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru: Cynnydd o ran rhoi'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar waith

 

 

3.2

Gohebiaeth at Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ynglŷn â gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth at Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru ynglŷn â gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2019

 

 

(11.05)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

 

(11.05 - 11.20)

5.

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru): trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2.