Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/12/2019 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(12.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r
cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth Huw
Irranca-Davies AC; a dirprwyodd Jenny Rathbone AC ar ei ran. |
|
(12.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 3 a 6 yn y cyfarfod heddiw Cofnodion: 2.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(12.30-13.00) |
Gwaith dilynol ar gysgu ar y stryd yng Nghymru: trafod yr adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd
arno yn amodol ar rai mân newidiadau. |
|
(13.00-14.15) |
Gwaith dilynol ar ddiogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn - Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog Julie James AC, y Gweinidog Tai a
Llywodraeth Leol Clare Severn, Pennaeth y Rhaglen Diogelwch
Adeiladau Francois Samuel, Pennaeth Polisi
Rheoliadau Adeiladu Steve Bryant, Cynghorydd Cynorthwyol Tân
ac Achub Steve Pomeroy, Pennaeth y Gangen
Gwasanaethau Tân ac Achub Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Julie James AC, y Gweinidog Tai a
Llywodraeth Leol ·
Clare Severn, Pennaeth y Rhaglen
Diogelwch Adeiladau ·
Francois Samuel, Pennaeth Polisi
Rheoliadau Adeiladu ·
Steve Bryant, Cynghorydd
Cynorthwyol Tân ac Achub ·
Steve Pomeroy, Pennaeth y Gangen
Gwasanaethau Tân ac Achub 4.2
Yn ystod y cyfarfod: ·
Cynigiodd y Gweinidog i'r Dirprwy
Weinidog ddiweddaru'r Pwyllgor ar y trafodaethau a gafwyd gyda'r Prif
Swyddogion Tân ynghylch y camau i'w cymryd yng Nghymru ar ôl cyhoeddi’r
adroddiad Cyfnod 1 ar yr Ymchwiliad i Dŵr Grenfell. ·
Cytunodd y Gweinidog i ddarparu
dadansoddiad o safbwynt Llywodraeth Cymru ar bob un o'r argymhellion a wnaed yn
yr adroddiad Cyfnod 1 ar yr Ymchwiliad i Dŵr Grenfell fel y maent yn
ymwneud â Chymru. ·
Cytunodd y Gweinidog i rannu gyda'r
Pwyllgor yr ohebiaeth a anfonwyd gan y Gweinidog Addysg at sefydliadau addysg
uwch yng Nghymru yn nodi eu rhwymedigaethau ynghylch diogelwch tân a choladu
data cywir. ·
Cynigiodd y Gweinidog i roi brîff
technegol i'r Pwyllgor ar faterion sy’n ymwneud â diogelwch tân. ·
Cytunodd y Gweinidog i rannu
dogfennaeth gyda’r Pwyllgor a anfonwyd at asiantau rheoli yn dangos sut y mae'r
Llywodraeth yn lledaenu gwybodaeth gyda rhanddeiliaid. |
|
(14.15) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: |
|
Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar eiddo gwag Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1a Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i
adroddiad y Pwyllgor ar eiddo gwag. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch cysgu ar y stryd yng Nghymru – 29 Tachwedd 2019 Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Tai a
Llywodraeth Leol ynghylch cysgu ar y stryd yng Nghymru. |
||
(14.15-14.30) |
Gwaith dilynol ar ddiogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn - trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan
eitem 4. |