Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/01/2020 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00-09.30)

1.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21: trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Trafododd y Pwyllgor gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2020– 21 a chytunodd arno yn amodol ar rai mân newidiadau.

 

(09.30)

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

2.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

2.2       Cafwyd ymddiheuriadau gan Caroline Jones AC a Huw Irranca-Davies AC. Cafwyd ymddiheuriadau gan Leanne Wood AC ar gyfer sesiwn y prynhawn. Dirprwyodd Delyth Jewell AC a Joyce Watson ar eu rhan yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

 

 

 

09.30-12.00)

3.

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru): sesiwn dystiolaeth 12

Cyng Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd, Grŵp Llafur CLlLC a Llefarydd CLlLC ar gyfer Diwylliant, Twristiaeth a Digwyddiadau Mawr

Cyng Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, Arweinydd Grŵp Plaid Cymru CLlLC

Cyng Peter Fox, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, Arweinydd Grŵp Ceidwadwyr CLlLC

Cyng Ray Quant, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, Dirprwy Lywydd CLlLC

Chris Llewelyn, Prif Weithredwr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Daniel Hurford, Pennaeth Polisi, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd, Grŵp Llafur CLlLC a Llefarydd CLlLC ar Ddiwylliant, Twristiaeth a Digwyddiadau Mawr

·       Y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, Arweinydd Grŵp Plaid Cymru CLlLC

·       Y Cynghorydd Peter Fox, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, Arweinydd Grŵp y Ceidwadwyr CLlLC

·       Y Cynghorydd Ray Quant, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, Dirprwy Lywydd CLlLC

·       Chris Llywelyn, Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

·       Daniel Hurford, Pennaeth Polisi Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

3.2 Yn ystod y cyfarfod, cytunodd y tystion i ddarparu rhagor o astudiaethau achos ar y Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol a phryd y cafodd ei ddefnyddio’n effeithiol gan awdurdodau lleol Lloegr.

 

 

(12.45-13.45)

4.

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru): sesiwn dystiolaeth 13

Rob Thomas, Cadeirydd, SOLACE Cymru

Michelle Morris, Is-gadeirydd ac Arweinydd Portffolio’r Gweithlu, SOLACE Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Rob Thomas, Cadeirydd SOLACE Cymru

·       Michelle Morris, Is-gadeirydd ac Arweinydd Portffolio’r Gweithlu, SOLACE Cymru

 

(13.45-14.45)

5.

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru): sesiwn dystiolaeth 14

Davina Fiore, Cyfreithwyr mewn Llywodraeth Leol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Davina Fiore, Cyfreithwyr mewn Llywodraeth Leol

(14.45-14.50)

6.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

6.1

Gohebiaeth gan y Cymdeithas Llywodraeth Leol ynghylch y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) - 6 Ionawr 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol ynghylch y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).

6.2

Gohebiaeth gan Chris Highcock ynghylch y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) - 14 Ionawr 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Chris Highcock ynghylch y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).

6.3

Gohebiaeth gan Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ynghylch adroddiad y Pwyllgor ar wasanaethau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau ar gyfer pobl sy’n cysgu ar y stryd - 13 Ionawr 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.3a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ynghylch adroddiad y Pwyllgor ar wasanaethau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau ar gyfer pobl sy’n cysgu ar y stryd.

 

6.4

Gohebiaeth at y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch ymateb i’r adroddiad ar fudd-daliadau yng Nghymru - 13 Ionawr 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.4a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth at y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch yr ymateb i’r adroddiad ar fudd-daliadau yng Nghymru.

 

6.5

Adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru - Gweinyddu nawdd cymdeithasol yng Nghymru: Tystiolaeth o ddiwygiadau posib - 14 Ionawr 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.5a Nododd y Pwyllgor adroddiad gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru: Gweinyddu nawdd cymdeithasol yng Nghymru - tystiolaeth am ddiwygiadau posibl:

 

6.6

Gohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch diogelwch tân mewn tyrau o fflatiau - 13 Ionawr 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.6a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch diogelwch tân mewn tyrau o fflatiau.

 

(14.50)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

7.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(14.50-15.00)

8.

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru): trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 3, 4 a 5.