Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/02/2020 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00 - 11.00) |
Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru): y prif faterion Dogfennau ategol: Cofnodion: 1.1 Trafododd y Pwyllgor ei faterion allweddol, a
chytunodd arnynt. |
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r
cyfarfod. |
||
(11.00 - 11.45) |
Ymchwiliad ar ôl y broses ddeddfu i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015: gwaith dilynol - sesiwn dystiolaeth 1 Eleri Butler,
Prif Swyddog Gweithredol, Cymorth i Ferched Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: · Eleri Butler, Prif Swyddog Gweithredol, Cymorth i Ferched Cymru 3.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth cytunodd Cymorth i
Ferched Cymru i ddarparu: · Rhagor o fanylion am y ffyrdd a awgrymir y gellid addasu'r Ddeddf, ar ôl
cyflwyno Bil Cam-drin Domestig y DU. · Gwybodaeth am ddulliau peilot diweddar sydd wedi canolbwyntio ar atal (er
enghraifft Newid sy'n Para). · Ehangu ar sut y gallai Llywodraeth Cymru wella'r ddarpariaeth ar gyfer
menywod nad oes ganddynt hawl i gael arian cyhoeddus. · Nodyn ar weledigaeth Cymorth i Ferched Cymru ar gyfer strwythur fframwaith
canlyniadau. · Nodyn ar gyfleoedd i'r Ddeddf gyd-fynd â gwaith sy'n ymwneud â Deddf
Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. · Ehangu ar yr hyn y dylai Strategaeth Genedlaethol 2021 ei gynnwys, a'r hyn
y gellir ei ddysgu o'r pum mlynedd diwethaf. |
|
(11.45 - 12.30) |
Ymchwiliad ar ôl y broses ddeddfu i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015: gwaith dilynol - sesiwn dystiolaeth 2 Huw Rees,
Cyfarwyddwr Archwilio Perfformiad, Swyddfa Archwilio Cymru Philippa Dixon,
Uwch-archwilydd, Swyddfa Archwilio Cymru Nick Selwyn, Rheolwr
Archwilio, Swyddfa Archwilio Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Huw Rees, Cyfarwyddwr Archwilio,
Swyddfa Archwilio Cymru ·
Philippa Dixon, Uwch Archwilydd,
Swyddfa Archwilio Cymru ·
Nick Selwyn, Rheolwr Archwilio,
Swyddfa Archwilio Cymru 4.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Swyddfa
Archwilio Cymru i ddarparu: ·
Copi o'i hadroddiad ym mis Rhagfyr
2018 ynghylch defnyddio data. ·
Rhagor o wybodaeth am y rhaglen
Teuluoedd Cydnerth yn Rhondda Cynon Taf. |
|
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol: |
||
Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Cynghorwyr Cenedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Trais ar sail Rhywedd a Thrais Rhywiol (mis Rhagfyr 2019) Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1.a Nododd y Pwyllgor y diweddariad gan y Cynghorwyr
Cenedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin
Domestig a Thrais Rhywiol (Rhagfyr 2019). |
||
Cyflwyniad ysgrifenedig gan yr NSPCC Cymru mewn perthynas â’r ymchwiliad ar ôl y broses ddeddfu i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.2a Nododd y Pwyllgor y cyflwyniad ysgrifenedig gan
NSPCC Cymru mewn perthynas â’r ymchwiliad ar ôl y broses ddeddfu i Ddeddf Trais
yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. |
||
Cyflwyniad ysgrifenedig gan Fwrdd Partneriaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Gwent mewn perthynas â’r ymchwiliad ar ôl y broses ddeddfu i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.3.a Nododd y Pwyllgor y cyflwyniad ysgrifenedig gan
Fwrdd Partneriaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
Gwent mewn perthynas â’r ymchwiliad ar ôl y broses ddeddfu i Ddeddf Trais yn
erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. |
||
Llythyr gan y Prif Weinidog at y Llywydd mewn perthynas â Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.4.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog at
y Llywydd mewn perthynas â Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: |
||
(12.30 - 12.40) |
Ymchwiliad ar ôl y broses ddeddfu i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015: gwaith dilynol - trafod y dystiolaeth Cofnodion: 7.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |