Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/03/2020 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1.      Croesawodd y Pwyllgor yr Aelodau a’r cyhoedd.

1.2.      Dirprwyodd David Melding AC ar ran Mark Isherwood AC ar gyfer eitemau 2 i 5, yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

1.3.      Cyhoeddodd Caroline Jones AC a Huw Irranca-Davies AC fuddiannau perthnasol yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru): sesiwn dystiolaeth 2

Dr Craig M. Gurney CIHM, Darlithydd ym maes Tai, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol a Gwleidyddol (Astudiaethau Trefol), Prifysgol Glasgow

Dr Tom Simcock CMRS, Cymrawd Ymchwil, Uned Gwerthuso a Dadansoddi Polisi, Prifysgol Edge Hill

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Dr Craig M. Gurney CIHM, Darlithydd ym maes Tai, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol a Gwleidyddol (Astudiaethau Trefol), Prifysgol Glasgow

·       Dr Thomas Simcock CMRS, Cymrawd Ymchwil, Uned Gwerthuso a Dadansoddi Polisi, Prifysgol Edge Hill

 

3.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

3.1

Gwybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â’r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â’r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).

3.2

Ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar y Gyllideb Ddrafft 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2.a Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru i'r adroddiad ar Gyllideb Ddrafft 2020.

 

3.3

Gwybodaeth ychwanegol gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip mewn cysylltiad â’r ymchwiliad ar ôl y broses ddeddfu i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip mewn perthynas â’r ymchwiliad ar ôl y broses ddeddfu i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(10.30 - 10.40)

5.

Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2.

 

(10.40 - 10.45)

6.

Ystyried llythyr gan y Llywydd ynghylch deddfwriaeth yn y dyfodol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1. Trafododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd mewn perthynas ag deddfwriaeth yn y dyfodol a chytunwyd i ymateb iddo.

 

(10.55 - 12.30)

7.

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) - trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1. Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno.