Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sarah Beasley
Amseriad disgwyliedig: Preifat
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
||
(09.30 - 10.30) |
Ymchwiliad i gynaliadwyedd y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol - sesiwn dystiolaeth gyda Wyn Jones Wyn Jones, Pennaeth Adnoddau, Ysbytai Addysgu Leeds Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Wyn Jones: |
|
(10.35 - 11.35) |
Ymchwiliad i gynaliadwyedd y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol - sesiwn dystiolaeth: GIG Cymru Jayne Dando, Pennaeth Strategaeth a Chynllunio’r
Gweithlu, Gwasanaethau Addysg a Datblygu’r Gweithlu, Partneriaeth
Cydwasanaethau’r GIG Richard Tompkins, Cyfarwyddwr, Cyflogwyr GIG Cymru Helen Watkins, Cyfarwyddwr Cynorthwyol y Gweithlu a
Datblygu Sefydliadol, Ymddiriedolaeth GIG Felindre Cofnodion: 3.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jayne Dando, Richard Tompkins a Helen
Watkins. |
|
(11.35 - 11.50) |
Ymchwiliad i gynaliadwyedd y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol - trafod y dystiolaeth a gafwyd yn eitemau 2 a 3 Cofnodion: 4.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan Wyn Jones, Pennaeth Adnoddau yn
Ysbytai Addysgu Leeds a Jayne Dando, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG, Richard
Tompkins, Cyflogwyr GIG Cymru a Helen Watkins, Ymddiriedolaeth GIG Felindre. |
|
(11.50 - 12.05) |
Ymchwiliad i ofal sylfaenol - trafod y cwmpas a'r dull gweithredu ar gyfer yr ymchwiliad Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1
Trafododd y Pwyllgor y cwmpas a'r dull gweithredu ar gyfer yr ymchwiliad, a
chytunodd arnynt. |
|
(12.05 - 12.15) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 2) - y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1
Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i
ysgrifennu adroddiad. |
|
(12.15 - 12.25) |
Trafod gohebiaeth gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch y cynnydd yn nifer y cwynion iechyd a dderbyniwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunodd i ofyn i'r clerc gysylltu â
chlerc y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ôl cynnal ei
sesiwn graffu a fydd yn digwydd gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru,
ac i roi'r wybodaeth
ddiweddaraf am gasgliadau'r pwyllgor hwnnw. |