Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sian Thomas 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jayne Bryant AC ac Angela Burns AC. Dirprwyodd Mohammad Asghar AC ar ran Angela Burns.

 

(09.30 - 10.15)

2.

Ymchwiliad i ofal sylfaenol - sesiwn dystiolaeth 8 - Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

Yr Athro Keith Lloyd, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Keith Lloyd o Goleg Brenhinol y Seiciatryddion.

 

(10.20 - 11.05)

3.

Ymchwiliad i ofal sylfaenol - Sesiwn dystiolaeth 9 - Pen-Y-Bont Health

Joanne Carter, Rheolwr y Practis, Pen Y Bont Health

Dr Gail Price, Pen Y Bont Health

Dr Alison Craven, Pen Y Bont Health

Dr Ian O’Connor, Pen Y Bont Health

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Pen-Y-Bont Health.

 

4.

Papurau i’w nodi

4.1

Adroddiad gan Sian Gwenllian AC ar ‘Ddelio â’r Argyfwng – ysgol feddygol newydd i Gymru’

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1a Nododd y Pwyllgor yr adroddiad gan Sian Gwenllian AC.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(11.05 - 11.15)

6.

Ymchwiliad i ofal sylfaenol - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd yn ystod eitemau 2 a 3 y cyfarfod.

 

(11.15 - 11.30)

7.

Defnydd o feddyginiaeth gwrth-seicotig mewn cartrefi gofal – ailafael yn yr ymchwiliad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cynhaliodd y Pwyllgor drafodaethau pellach ar ei ymchwiliad i'r defnydd o feddyginiaeth gwrth-seicotig mewn cartrefi gofal a chytunodd i wahodd rhanddeiliaid i sesiynau casglu tystiolaeth yn ystod tymor yr hydref.

 

(11:30 - 11:45)

8.

Blaenraglen waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Cynhaliodd y Pwyllgor drafodaethau pellach ar y flaenoriaeth a nodwyd ganddo yn flaenorol y dylid ymchwilio i iechyd y cyhoedd a chwaraeon. Cytunodd y Pwyllgor i drafod opsiynau ar gyfer ymchwiliad yn ystod un o'i gyfarfodydd ym mis Gorffennaf, gyda'r bwriad o lansio ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod yr haf.

8.2 Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch ei flaenraglen waith.