Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Claire Morris 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/11/2017 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) – sesiwn dystiolaeth 4 – Grŵp Ymchwil Alcohol Sheffield, Prifysgol Sheffield

John Holmes, Uwch-gymrawd Ymchwil, Grŵp Ymchwil Alcohol Sheffield

Colin Angus, Cymrawd Ymchwil, Grŵp Ymchwil Alcohol Sheffield

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Grŵp Ymchwil Alcohol Sheffield.

 

(10.35 - 11.20)

3.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) – sesiwn dystiolaeth 5 – Y Sefydliad Materion Economaidd

Chris Snowdon, Pennaeth Economeg Ffordd o Fyw, Sefydliad Materion Economaidd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolydd o'r Sefydliad Materion Economaidd.

3.2 Cytunodd Chris Snowdon i rannu gyda'r Pwyllgor astudiaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn ymwneud â'r canlyniadau anfwriadol posibl sy'n deillio o gyflwyno isafbris uned am alcohol, a llwybrau hysbys i ddibyniaeth.

 

4.

Papurau i’w nodi

4.1

Cyllideb Llywodraeth Cymru 2018-19 – llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

 

4.2

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 – Ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2a Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19.

 

4.3

Llythyr gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ynghylch trafodaethau manwl ar fframweithiau polisi cyffredin y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ynghylch trafodaethau manwl am fframweithiau polisi cyffredin y DU.

 

4.4

Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) – Llythyr gan yr Athro Jon Nelson ynglŷn â Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.4a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan yr Athro Jon Nelson mewn perthynas â Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru).

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(11.30 - 11.45)

6.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) – trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd yn ystod eitemau 2 a 3 y cyfarfod.

 

(11.45 - 12.15)

7.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 – ystyried yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân ddiwygiadau.

7.2 Nododd y Pwyllgor y byddai'r adroddiad yn cael ei osod gerbron y Cynulliad ar 1 Rhagfyr.