Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Claire Morris 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/10/2018 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Dawn Bowden AC.
1.3 Nododd y Cadeirydd y bydd y Pwyllgor yn ysgrifennu'n ffurfiol at Caroline Jones AC i ddiolch iddi am ei chyfraniad i'r Pwyllgor, a chroesawodd Neil Hamilton AC i'r Pwyllgor.

 

(9.30–10.15)

2.

Bil Awtistiaeth (Cymru): Sesiwn dystiolaeth â chynrychiolwyr Byrddau Iechyd Lleol a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

Carol Shillabeer, Prif Swyddog Gweithredol, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a’r Prif Weithredwr Arweiniol ar Iechyd Meddwl

Dr Mair Hopkin, Cyd-gadeirydd, Coleg Brenhinol Ymarferwyr Cyffredinol Cymru

Dr Jane Fenton-May, Coleg Brenhinol Ymarferwyr Cyffredinol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Fyrddau Iechyd Lleol a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol.

 

(10.20 –11.05)

3.

Bil Awtistiaeth (Cymru): Sesiwn dystiolaeth gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol

Naomi Alleyne, Cyfarwyddwr, Materion Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Keith Ingram, Swyddog Arweiniol y Prosiect Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth, Cyngor Bro Morgannwg
Claire Lister, Pennaeth Gwasanaethau Oedolion, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Jo Taylor, Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Anableddau Dysgu, Anawsterau Corfforol a Nam ar y Synhwyrau, Cyngor Sir y Fflint

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol.
3.2 Cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru o ddarparu enghreifftiau o arfer da o gydweithio rhwng Byrddau Iechyd Lleol a gwybodaeth ychwanegol am y dyfarniad ariannu gan Lywodraeth Cymru i'r Pwyllgor.

 

(11.10–11.55)

4.

Bil Awtistiaeth (Cymru): Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gymuned Ymarfer diagnosis oedolion ac ymarferwyr Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig

Dr Nicola Griffiths, Seicolegydd Clinigol, Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gwent
Sian Lewis, Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gwent

Dr Rona Aldridge, Seicolegydd Clinigol, Arweinydd Clinigol ar gyfer Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Caerdydd a'r Fro

Wendy Thomas, Arweinydd Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Awtistiaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gymuned Ymarfer ar gyfer diagnosis oedolion ac ymarferwyr Gwasanaethau Awtistiaeth Integredig.
4.2. Cytunodd y Gymuned Ymarfer ar gyfer diagnosis oedolion ac ymarferwyr Gwasanaethau Awtistiaeth Integredig i ddarparu data ystadegol yn ymwneud â'r amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael i'r rhai sydd wedi cael diagnosis o ASD.

 

(12.45 –13.30)

5.

Bil Awtistiaeth (Cymru): Sesiwn dystiolaeth gyda Choleg Brenhinol y Seiciatryddion a Choleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant

Yr Athro Alka Ahuja, Seiceiatrydd Ymgynghorol Plant a’r Glasoed, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion
Dr Amani Hassan, Cadeirydd, Cyfadran Seiceiatreg Plant a’r Glasoed, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

Dr Catherine Norton, Pediatregydd Ymgynghorol Cymunedol,

Dr Martin Simmonds, Pediatregydd Cymunedol, Coleg Brenhinol Pediatreg a Iechyd Plant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion a'r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant.

 

(13.35 – 14.20)

6.

Bil Awtistiaeth (Cymru): Sesiwn dystiolaeth gyda Chymdeithas Seicolegol Prydain a'r Gymdeithas Seicolegwyr Addysgol

Nigel Atter, Swyddog Polisi, Cymdeithas Seicolegol Prydain
Dr. Kate Swindon, Seicolegydd addysgol, Gwasanaethau Addysg, Cyngor Bwrdeistref Sirol

Andrea Higgins, Prif Gydlynydd a Chyfarwyddwr Academaidd, y Doethuriaeth mewn Seicoleg Addysg, yr Ysgol Seicoleg, Prifysgol Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Seicolegol Prydain a Chymdeithas y Seicolegwyr Addysg.

 

(14.20)

7.

Papurau i'w nodi

7.1

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynglŷn â’r diffiniad o atal mewn perthynas â gwario

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

7.2

Deintyddiaeth yng Nghymru: Gwybodaeth ychwanegol gan y Gymdeithas Ddeintyddol Prydain yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.2 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol.

 

(14.20)

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill cyfarfod heddiw ac ar gyfer y cyfarfod ar 17 Hydref, pan fydd y Pwyllgor yn gwneud gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid fel rhan o'i ymchwiliad ar effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â Gofalwyr

Cofnodion:

8.1 Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig.

 

(14.20-14.30)

9.

Bil Awtistiaeth (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.