Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sarah Beasley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/07/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
(09.30-11.30) |
Gwasanaethau mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf gynt, gwaith dilynol: Sesiwn dystiolaeth gyda’r Panel Goruchwylio Gwasanaethau Mamolaeth Annibynnol Mick Giannasi, Cadeirydd, Panel Goruchwylio Gwasanaethau
Mamolaeth Annibynnol Cath Broderick, Aelod panel lleyg, Panel Goruchwylio
Gwasanaethau Mamolaeth Annibynnol Briff Ymchwil Papur 1 – Panel Goruchwylio Gwasanaethau Mamolaeth
Annibynnol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1
Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y Panel Goruchwylio Gwasanaethau Mamolaeth Annibynnol. 2.2
Cytunodd
Cadeirydd y Panel Goruchwylio Gwasanaethau Mamolaeth Annibynnol i ddarparu
manylion ar y diffiniad o “ddigwyddiadau difrifol” a ddefnyddir gan y tîm
clinigol fel rhan o’i adolygiad ôl-weithredol. |
|
(11.30) |
Papurau i’w nodi |
|
Llythyrau gan Brif Weithredwr Interim Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1
Nododd y
Pwyllgor y ddau lythyr. |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.2
Nododd y
Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.3
Nododd y
Pwyllgor y llythyr. |
||
(11.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1
Derbyniodd
y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. |
|
(11.30-11.40) |
Gwasanaethau mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf gynt gwaith dilynol: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1
Ystyriodd
y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a thrafodwyd opsiynau craffu pellach.
Cytunodd y Pwyllgor i wahodd David Jenkins i drafod ei waith yn cefnogi
Cadeirydd y Panel Goruchwylio Gwasanaethau Mamolaeth Annibynnol a Bwrdd Iechyd
Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i sicrhau gwelliannau o ran arweinyddiaeth a
llywodraethu corfforaethol i gyfarfod yn y dyfodol. 5.2
Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn
am eglurhad ar y gwahanol ffrydiau sy’n cefnogi’r broses ymyrraeth. |
|
(11.40-12.00) |
Gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal: Trafod yr adroddiad drafft (2) Papur 5 – Gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal:
adroddiad drafft (2) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1
Trafododd
y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno. |
|
(12.00-12.20) |
Blaenraglen waith Papur 6 – Blaenraglen Waith Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1
Ystyriodd
y Pwyllgor y flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref, a nifer o gynigion ar
gyfer ymchwiliadau posibl yn y dyfodol. Gofynnodd y Pwyllgor i’r
ysgrifenyddiaeth wneud rhywfaint o waith cwmpasu pellach a chytunodd i
ystyriodd y mater eto yn nhymor yr hydref. |
|
(12.20-12.30) |
Goblygiadau Brexit: fframweithiau polisi cyffredin y DU gyfan Papur 7 – Goblygiadau Brexit: fframweithiau polisi
cyffredin y DU gyfan Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1
Trafododd
y Pwyllgor ei ddull o ystyried fframweithiau polisi cyffredin ledled y DU a
chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gael
rhagor o fanylion am nifer o faterion i lywio unrhyw waith craffu y bydd y
Pwyllgor am ei wneud yn y dyfodol. |