Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/10/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Helen Mary Jones AC, ac roedd Siân Gwenllian AC yn bresennol fel dirprwy ar ei rhan.

 

(09.15-10.20)

2.

Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru): Sesiwn dystiolaeth gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

David Pritchard, Cyfarwyddwr Rheoleiddio, Gofal Cymdeithasol Cymru

Y Cynghorydd

Huw David, Llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Nicola Stubbins, Is-lywydd, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

 

Briff ymchwil

Crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad

Crynodeb o’r ymatebion i’r arolwg

 

Papur 1 – Gofal Cymdeithasol Cymru

Papur 2 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gofal Cymdeithasol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

 

(10.30-12.00)

3.

Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru): sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Vaughan Gething AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Janet Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr, Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Llywodraeth Cymru

Rhian Williams, Arweinydd Polisi, Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) - Llywodraeth Cymru

Catrin Gwyn, Cyfreithwraig – Llywodraeth Cymru

 

Papur 3 - Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

(12.00)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y Cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

(12:00-12:10)

6.

Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(12:10-12.30)

7.

Iechyd meddwl yng nghyd-destun plismona a dalfa’r heddlu: trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad, yn amodol ar fân newid.