Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/11/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Lynne Neagle AC.

 

(09.30)

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 3 o gyfarfod heddiw

Cofnodion:

2.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 3.

 

 

 

(09.30-10.30)

3.

Y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru): Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad.

 

(10.40-11.25)

4.

Darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol ar yr ystâd carchardai i oedolion: Sesiwn dystiolaeth gyda’r Ombwdsmon Carchardai a Phrawf

Sue McAllister, Ombwdsman Carchardai a Phrawf

 

 

Briff ymchwil

Crynodeb o’r ymatebion ysgrifenedig

 

Papur 1 – Ombwdsman Carchardai a Phrawf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Ombwdsmon Carchardai a Phrawf.

 

(11.25)

5.

Papurau i’w nodi

5.1

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

(11.25)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

(11.25-11.40)

7.

Darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol ar yr ystâd carchardai i oedolion: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.