Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 424KB) Gweld fel HTML (244KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Dawn Bowden AC a Jayne Bryant AC.

 

 

 

(09.15 - 10.15)

2.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): Cyfnod 1, sesiwn dystiolaeth 4 - Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd - WEDI'I OHIRIO

Julie Barratt, Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd

 

Dogfennau ategol:

(10.20 - 11.20)

3.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): Cyfnod 1, sesiwn dystiolaeth 5 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Cyfarwyddwyr Diogelu'r Cyhoedd Cymru

Naomi Alleyne, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Simon Wilkinson, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Robert Hartshorn, Cyfarwyddwyr Diogelu'r Cyhoedd Cymru

Dr Sarah Jones, Cyfarwyddwyr Diogelu'r Cyhoedd Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyfarwyddwyr Diogelu'r Cyhoedd Cymru.

3.2 Cytunodd Simon Wilkinson i adolygu'r adrannau yn y Bil sy'n yn ymwneud ag Asesiadau o'r Effaith ar Iechyd, a darparu nodyn yn esbonio a yw'r Bil fel ag y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd yn eglur o ran sut y bydd cynnal Asesiadau o'r Effaith ar Iechyd yn arwain at wella iechyd y cyhoedd.

 

(11.25 - 12.25)

4.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): Cyfnod 1, sesiwn dystiolaeth 6 - BMA Cymru Wales a Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

Dr Phil Banfield, BMA Cymru Wales

Dr Stephen Monaghan, BMA Cymru Wales

Dr Jane Fenton May, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

Dr Rebecca Payne, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o BMA Cymru a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol.

4.2 Cytunodd Dr Stephen Monaghan i ddarparu tystiolaeth ynghyd ag unrhyw waith ymchwil sydd wedi cael ei wneud ar feirysau a gludir yn y gwaed a'u tarddiad yng nghyd-destun gweithredfnau arbennig a thyllu'r corff.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(12.25 - 12.40)

6.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) - Cyfnod 1, sesiynau tystiolaeth 4, 5 a 6 - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyfarwyddwyr Diogelu'r Cyhoedd Cymru, BMA Cymru a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol.