Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sian Thomas 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriad gan Angela Burns AC a Julie Morgan AC. Dirprwyodd Suzy Davies AC ar ran Angela Burns AC a dirprwyodd Huw Irranca-Davies AC ar ran Julie Morgan AC.

 

(09.15 - 10.45)

2.

Ymchwiliad i ofal sylfaenol – sesiwn dystiolaeth 10 – Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Grant Duncan, Dirprwy Gyfarwyddwr, Gofal Sylfaenol, Llywodraeth Cymru

Dr Richard Lewis, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Sylfaenol, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a'i swyddogion.

 

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Ymchwiliad i ofal sylfaenol - gwybodaeth ychwanegol gan Pen-y-bont Health

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Pen-y-bont Health.

 

3.2

Ymchwiliad i ofal sylfaenol - gwybodaeth ychwanegol gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru.

 

3.3

Ymchwiliad i ofal sylfaenol - gwybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys am gyllid ar gyfer datblygu clystyrau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3a ​​Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys ynghylch Arian Datblygu Clystyrau.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(10.45 - 11.30)

5.

Ymchwiliad i ofal sylfaenol – trafod y dystiolaeth a’r prif faterion sy’n deillio o’r gwaith craffu.

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet a'i swyddogion, a chytunodd ar set o faterion allweddol i'w cynnwys yn ei adroddiad drafft.

 

(11.30 - 12.00)

6.

Ymchwiliad i recriwtio meddygol - trafod yr adroddiad drafft (2)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân ddiwygiadau.