Agenda a Chofnodion
Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd - Dydd Iau, 29 Mehefin 2017 09.45
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sian Thomas
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
||
(09.45 - 11.30) |
Craffu ar Gyllideb Llywodraeth Cymru 2017-18 – Sesiwn graffu ariannol canol blwyddyn - Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a’r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd,
Llesiant a Chwaraeon Rebecca Evans AC, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a
Gwasanaethau Cymdeithasol Andrew Goodall,
Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd Alan Brace, Cyfarwyddwr
Cyllid, Iechyd Albert Heaney, Cyfarwyddwr,
Iechyd Cymdeithasol ac Integreiddio Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1. Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd,
Llesiant a Chwaraeon a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol. 2.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i
ddarparu nodyn i'r Pwyllgor yn amlinellu'r cynnydd a wnaed o ran y cynlluniau
peilot ynghylch y rhaglen ar y ddeddf gofal gwrthgyfartal sydd ar y gweill ym
Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf. |
|
Papurau i’w nodi |
||
Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd - gwybodaeth ychwanegol gan Gydffederasiwn GIG Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan
Gydffederasiwn y GIG. |
||
Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid ynglŷn â chraffu ar y gyllideb ddrafft Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr a gafwyd gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch
craffu ar y gyllideb ddrafft. |
||
Ymchwiliad i ofal sylfaenol - gwybodaeth ychwanegol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.3a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a gafwyd gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o'r cyfarfodydd ar 5 Gorffennaf a 13 Gorffennaf. ·
Ar 5 Gorffennaf, er mwyn trafod blaenraglen waith y
Pwyllgor. ·
Ar 13 Gorffennaf, er mwyn trafod adroddiad drafft y
Pwyllgor ar ofal sylfaenol Cofnodion: 4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(11.30 - 11.45) |
Craffu ar Gyllideb Llywodraeth Cymru 2017-18 - Sesiwn graffu ariannol canol blwyddyn – trafod y dystiolaeth. Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan yr Ysgrifennydd
Cabinet, y Gweinidog a'u swyddogion. |