Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sian Thomas
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 468KB) Gweld fel HTML
(275KB) |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Angela Burns AC a dirprwyodd Suzy Davies AC
ar ei rhan. |
||
(09.30 - 10.30) |
Paratoi ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 – Sesiwn dystiolaeth 1 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Cwm Taf Gary Doherty, Prif Swyddog Gweithredol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr Russ Favager, Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Allison Williams, Prif Swyddog Gweithredol, Bwrdd Iechyd Cwm Taf Mark Thomas, Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Cwm Taf Vanessa Young, Cyfarwyddwr, Conffederasiwn GIG Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf. |
|
(10.35 - 11.35) |
Paratoi ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 – Sesiwn dystiolaeth 2 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro Steve Moore, Prif Swyddog Gweithredol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Stephen Forster, Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Len Richards, Prif Swyddog Gweithredol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r
Fro Bob Chadwick, Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol
Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. 3.2 Cytunodd Steve Moore i roi nodyn i'r Pwyllgor ynglŷn â darpariaeth
gwasanaethau iechyd meddwl ar y model Trieste y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol
Hywel Dda yn ei ddefnyddio i gynorthwyo i lywio ei raglen weithredu 'Trawsnewid
Gwasanaethau Iechyd Meddwl'. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(11.35 - 11.45) |
Paratoi ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 – Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd yn ystod eitemau 2 a 3 y
cyfarfod. |
|
(11.45 - 12.05) |
Ymchwiliad i ofal sylfaenol – trafod yr adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor gopi drafft o adroddiad ei ymchwiliad i glystyrau
gofal sylfaenol. Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân
ddiwygiadau. |
|
(12.05 - 12.30) |
Blaenraglen waith Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Cytunodd yr Aelodau i ymgymryd ag ymchwiliad i atal achosion o
hunanladdiad. Cyhoeddir yr ymchwiliad a'r ymgynghoriad cysylltiedig cyn bo hir. 7.2 Cytunodd yr Aelodau i gynnal ymchwiliad byr i'r Rhestr Cyflawnwyr
Meddygol; bydd cynigion yn cael eu cwblhau yn fuan. 7.3 Cafodd yr Aelodau drafodaethau cychwynnol ynghylch cynlluniau ar gyfer
ymchwiliadau eraill yn y dyfodol, gan gynnwys seilwaith TGCh, a chytunwyd i
gwblhau cynigion mewn cyfarfodydd yn y dyfodol. |