Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sian Thomas 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

2.

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 468KB) Gweld fel HTML (275KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Angela Burns AC a dirprwyodd Suzy Davies AC ar ei rhan.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Paratoi ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 – Sesiwn dystiolaeth 1 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Cwm Taf

Gary Doherty, Prif Swyddog Gweithredol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Russ Favager, Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Allison Williams, Prif Swyddog Gweithredol, Bwrdd Iechyd Cwm Taf

Mark Thomas, Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Cwm Taf

Vanessa Young, Cyfarwyddwr, Conffederasiwn GIG Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.

 

(10.35 - 11.35)

3.

Paratoi ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 – Sesiwn dystiolaeth 2 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Steve Moore, Prif Swyddog Gweithredol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Stephen Forster, Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Len Richards, Prif Swyddog Gweithredol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Bob Chadwick, Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

3.2 Cytunodd Steve Moore i roi nodyn i'r Pwyllgor ynglŷn â darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl ar y model Trieste y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ei ddefnyddio i gynorthwyo i lywio ei raglen weithredu 'Trawsnewid Gwasanaethau Iechyd Meddwl'.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(11.35 - 11.45)

5.

Paratoi ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 – Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd yn ystod eitemau 2 a 3 y cyfarfod.

 

(11.45 - 12.05)

6.

Ymchwiliad i ofal sylfaenol – trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor gopi drafft o adroddiad ei ymchwiliad i glystyrau gofal sylfaenol. Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân ddiwygiadau.

 

(12.05 - 12.30)

7.

Blaenraglen waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cytunodd yr Aelodau i ymgymryd ag ymchwiliad i atal achosion o hunanladdiad. Cyhoeddir yr ymchwiliad a'r ymgynghoriad cysylltiedig cyn bo hir.

7.2 Cytunodd yr Aelodau i gynnal ymchwiliad byr i'r Rhestr Cyflawnwyr Meddygol; bydd cynigion yn cael eu cwblhau yn fuan.

7.3 Cafodd yr Aelodau drafodaethau cychwynnol ynghylch cynlluniau ar gyfer ymchwiliadau eraill yn y dyfodol, gan gynnwys seilwaith TGCh, a chytunwyd i gwblhau cynigion mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.