Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Claire Morris 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

2.

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF428KB) Gweld fel HTML (232KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie Morgan.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Paratoi ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 – sesiwn dystiolaeth 3 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Alex Howells, Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Lynne Hamilton, Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Judith Paget, Prif Swyddog Gweithredol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Hywel Jones, Cyfarwyddwr Cyllid Cynorthwyol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Carol Shillabeer, Prif Swyddog Gweithredol, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Eifion Williams, Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

 

(10.35 - 11.35)

3.

Paratoi ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 - sesiwn dystiolaeth 4 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Y Cynghorydd Huw David, lefarydd dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac Arweinydd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Dave Street, Llywydd, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghaerffili

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

4.

Papurau i'w nodi

4.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i gostau gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas ag ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i gostau gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio.

 

4.2

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ynghylch Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon mewn perthynas ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

 

4.3

Ymchwiliad i’r defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal – gwybodaeth ychwanegol gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion mewn perthynas â'r ymchwiliad i'r defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal.

 

4.4

Paratoi ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 - gwybodaeth ychwanegol gan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.4a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda mewn perthynas â pharatoi ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(11.35 - 11.45)

6.

Paratoi ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 – trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd yn ystod eitemau 2 a 3 y cyfarfod.

 

(11.45 - 12.30)

7.

Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd - trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor ddrafft o'r adroddiad ar ei ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd. Cytunodd y Pwyllgor i ystyried yr adroddiad eto mewn cyfarfod yn y dyfodol.