Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Claire Morris 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/03/2018 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Yn ei gyfarfod ar 7 Mawrth 2018, penderfynodd y Pwyllgor, o dan Reol Sefydlog 17.42, i wahardd y cyhoedd o ddechrau'r cyfarfod hwn

(09.30 - 09.50)

1.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) - Trefn Ystyriaeth - cytundeb mewn egwyddor cyn trafodion Cyfnod 2

Papur 1 - Trefn y broses ystyried

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Nododd y Pwyllgor y gweithdrefnau ar gyfer Cyfnod 2 Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) a chytunodd ar ddull gweithredu ar gyfer y drefn o ran ystyried y gwelliannau.

 

(09.50 - 10.10)

2.

Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) - Craffu ar ôl deddfu: Papur Cwmpasu

Papur 2 - Papur cwmpasu

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cytunodd y Pwyllgor i ailystyried y mater hwn maes o law.

 

Sesiwn gyhoeddus

(10.15)

3.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

3.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jayne Bryant AC a Lynne Neagle AC.

 

(10.15 - 11.00)

4.

Ymchwiliad i weithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc - tystiolaeth gan Women in Sport

Laura Matthews, Uwch Reolwr Gwybodaeth a Pholisi, Women and Sport

 

Briff Ymchwil

Papur 3

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolydd o Women in Sport.

4.2     Cytunodd Laura Matthews i ddarparu rhagor o wybodaeth am y rhaglen DADEE (Dads and Daughters Exercising and Empowered) sy'n cael ei datblygu gan Brifysgol Newcastle, Awstralia.

 

(11.15 - 12.00)

5.

Ymchwiliad i weithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc – tystiolaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dr Julie Bishop, Cyfarwyddwr Gwella Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dr Ciaran Humphreys, Cyfarwyddwr Gwybodaeth Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Papur 4

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru.

 

(12.45 - 13.30)

6.

Ymchwiliad i weithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc – tystiolaeth gan Estyn

Jackie Gapper, Dirprwy Cyfarwyddwr, Estyn

John Thomas, Arolygwyr Ei Mawrhydi

Anwen Griffiths, Arolygwyr Ei Mawrhydi

 

Papur 5

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Estyn.

 

(13.30)

7.

Papurau i’w nodi

7.1

Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018

Cofnodion:

7.1a Nododd y Pwyllgor Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018 a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig.

 

7.2

Ymchwiliad i weithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc: Nodiadau am waith ymgysylltu

Papur 6 - Trafodaethau grwpiau ffocws gyda rhanddeiliaid, 25 Ionawr 2018

 

Papur 7 - Trafodaethau gyda disgyblion a staff Ysgol Bassaleg, 7 Rhagfyr 2017

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.2a Nododd y Pwyllgor y nodiadau am waith ymgysylltu mewn perthynas â'i ymchwiliad i weithgarwch corfforol plant a phobl ifanc.

 

7.3

Atal Hunanladdiad: Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Papur 8

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.3a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg mewn perthynas ag ymchwiliad y Pwyllgor i Atal Hunanladdiad.

 

(13.30)

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

8.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

(13.30 - 13.45)

9.

Ymchwiliad i weithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc – trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.