Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Claire Morris 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/10/2018 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Diolchodd y Cadeirydd Rhun ap Iorwerth am ei gyfraniad i waith y Pwyllgor, a chroesawodd Helen Mary Jones.

(9.30-10.15)

2.

Bil Awtistiaeth (Cymru): Sesiwn dystiolaeth gyda Choleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd, Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol ac ADHD Connections

Julie Mullis, Ymgynghorydd Awtistiaeth, Coleg Brenhinol Therapyddion Iaith a Lleferydd

David Davies, Swyddog Polisi Cymru, Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol

Sally Payne, Cynghorydd Proffesiynol, Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd, Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol

Zoe Piper, Cadeirydd yr Elusen, ADHD Connections


Papur 1 – Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd
Papur 2 – Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol

Papur 3 – ADHD Connections

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Goleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol, Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd ac ADHD Connections.

(10.15)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 4 a 5

Cofnodion:

3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig.

(11.00-12.30)

4.

Bil Awtistiaeth (Cymru): gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Gwnaeth y Pwyllgor waith ymgysylltu â rhanddeiliaid fel rhan o'i waith craffu ar y Bil Awtistiaeth (Cymru).

(13.30-14.00)

5.

Atal hunanladdiad: trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.

(14.00-15.30)

6.

Bil Awtistiaeth (Cymru): Sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Matthew Jenkins, Diprwy Gyfarwyddwr, Partneriaeth a Cydweithrediad, Llywodraeth Cymru

Sarah Tyler, Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

 

Papur 4 – Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

6.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ddarparu manylion pellach am y Cod Ymarfer arfaethedig, gan gynnwys ystyried cysoni rhwng ardaloedd i'w gynnwys yn y Cod a'r Bil fel y mae ar hyn o bryd, ynghyd â gwybodaeth bellach am amseroedd aros yn ôl ardal bwrdd iechyd.

(15.30)

7.

Papur(au) i'w nodi

7.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ynglŷn â chraffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

7.2

Deintyddiaeth yng Nghymru: gwybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.2 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol.

7.3

Deintyddiaeth yng Nghymru: gwybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.3 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol.

7.4

Bil Awtistiaeth (Cymru): gwybodaeth ychwanegol gan Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.4 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol.

(15.30)

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

8.1 Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig.

(15.30)

9.

Bil Awtistiaeth (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.