Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Claire Morris 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/11/2018 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:00-09:30)

1.

Bil Awtistiaeth (Cymru): Trafod yr adroddiad drafft

 

Bil Awtistiaeth (Cymru): adroddiad Drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft

(09:30)

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC. Roedd Gareth Bennett AC yn bresennol fel dirprwy.

2.3 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A, datganodd Julie Morgan AC a Helen Mary Jones AC iddynt gael eu cyflogi gynt gan Barnardo's Cymru.

(09:30-10:30)

3.

Effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â Gofalwyr: Sesiwn dystiolaeth gyda sefydliadau plant

Sarah Crawley, Cyfarwyddwr, Barnardo’s Cymru

Lynne Hill, Cyfarwyddwr Polisi, Plant yng Nghymru

Geraint Turner, Cydlynydd Prosiect, YMCA

 

Briff Ymchwil

 

Effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â gofalwyr: Crynodeb o ganfyddiadau'r grŵp ffocws

 

Papur 1 – Barnardo’s Cymru

Papur 2 - Plant yng Nghymru

Papur 3 – YMCA Abertawe

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan sefydliadau plant.

(10:35-11:15)

4.

Effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â Gofalwyr: Sesiwn dystiolaeth gyda Chymdeithas Alzheimer's Cymru

 

Huw Owen, Swyddog Polisi, Alzheimer’s Society Cymru

Dawn Walters, Adfocad, Alzheimer’s Society Cymru

Jayne Goodrick, Gofalu am berson â dementia

Ceri Higgins, Gofalu am berson â dementia

 

Papur 4 – Alzheimer’s Society Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Alzheimer’s Society Cymru.

(11:20-12:10)

5.

Effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â Gofalwyr: Sesiwn dystiolaeth gyda Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Damien McCann, Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol ym Mlaenau Gwent, Cymdeithas Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Kim Sparrey, Rheolwr Datblygu Gwasanaethau Gofalwyr, Cyngor Sir Fynwy a Chadeirydd Rhwydwaith Gwella a Dysgu Swyddogion Gofalwyr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Susan Elsmore, Dirprwy Lefarydd dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Naomi Alleyne, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

Papur 5 - Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

5.2 Cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i rannu â'r Pwyllgor gopi o ddogfen Gofal Cymdeithasol Cymru sy'n amlinellu'r arfer gorau ar gyfer asesiad anghenion gofalwr pan fydd ar gael.

5.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu ati gyda chwestiynau pe na bai cyfle i'w gofyn yn ystod y sesiwn dystiolaeth

6.

Papur(au) i'w nodi

6.1

Y Bil Awtistiaeth (Cymru): Gwybodaeth ychwanegol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol.

6.2

Y Bil Awtistiaeth (Cymru): Llythyr gan Paul Davies, yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil, at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

(12:10)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

7.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

(12:10-12:15)

8.

Effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â Gofalwyr: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

8.1 Cytunodd y Pwyllgor i ohirio'r eitem hon i gyfarfod yn y dyfodol.

(12:15-12:20)

9.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20: trafod yr adroddiad drafft

 

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20: adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Cytunodd y Pwyllgor i drafod yr adroddiad drafft y tu allan i'r cyfarfod Pwyllgor.