Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Claire Morris 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/03/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jayne Bryant AC.

1.3 Cafwyd ymddiheuriad gan Angela Burns AC.

1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC.

1.5 Cafwyd ymddiheuriadau gan Helen Mary Jones AC.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal: Sesiwn dystiolaeth gyda Choleg Nyrsio Brenhinol Cymru

Lisa Turnbull, Ymgynghorydd Polisi a Materion Cyhoeddus, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru

Sue Thomas, Ymgynghorydd Gofal Sylfaenol a Chymunedol, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru

Anwen Jenkins, Uwch Nyrs Ardal ac aelod o’r Cyngor Nyrsio Brenhinol

 

Ymatebion i’r ymgynghoriad

 

Briff Ymchwil

Papur 1:  Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Coleg Brenhinol y Nyrsys.

2.2 Cytunodd y Coleg Nyrsio Brenhinol i ddarparu rhagor o wybodaeth am enghreifftiau penodol o’r modd y caiff TGCh ei defnyddio’n effeithiol ym maes nyrsio cymunedol a nyrsio ardal.  

(10.45 - 11.45)

3.

Gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal: Sesiwn dystiolaeth gyda chynrychiolwyr Byrddau Iechyd Lleol

Rhiannon Jones, Cyfarwyddwr Nyrsio, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Lesley Lewis, Pennaeth Nyrsio, Gofal Sylfaenol ac Ardaloedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Jo Webber, Pennaeth Nyrsio ar gyfer yr Is-adran Gofal Sylfaenol a Chymunedol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

 

Papur 2: Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Papur 3: Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Papur 4: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Byrddau Iechyd Lleol.

 

(12.30 - 13.45)

4.

Gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal: Sesiwn dystiolaeth gyda swyddogion Llywodraeth Cymru

Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru, Llywodraeth Cymru

Professor Jean White, Prif Swyddog Nyrsio a Chyfarwyddwr Nyrsio GIG Cymru, Llywodraeth Cymru

Paul Labourne, Swyddog Nyrsio, Gofal Sylfaenol ac Integredig, Llywodraeth Cymru

 

Papur 5: Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan swyddogion Llywodraeth Cymru.

4.2 Cytunodd Dr Goodall i ddarparu rhagor o wybodaeth am elfennau o’r prosiectau  nyrsio cymunedol / ardal a gymeradwywyd o dan y Gronfa Drawsnewid.  

 

(13.45)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

(13.45 -14.00)

6.

Gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal: Trafod y dystiolaeth