Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/07/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(10.00-11.00)

1.

Gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal: Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1        Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunwyd ar fân newidiadau i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf.

 

(11.10)

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

2.1             Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

2.2        Cafwyd ymddiheuriad gan Angela Burns AC ar gyfer sesiwn y bore.  Roedd Darren Millar AC yn bresennol fel dirprwy.

2.3             Dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Jayne Bryant AC fod ei mam yn aelod o Gyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan.

 

(11.10-12.40)

3.

Gwaith craffu cyffredinol: Sesiwn dystiolaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

 

Ann Lloyd, Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Judith Paget, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Glyn Jones, Cyfarwyddwr Cyllid a Pherfformiad, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Martine Price, Cyfarwyddwr Interim Nyrsio, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

 

Briff Ymchwil

Papur 1 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1        Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

3.2        Cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i roi’r manylion am ganran y premiwm ariannol ar gyfer rhedeg practisau a reolir os caiff costau locwm eu heithrio (h.y. pe bai meddygon yn cael eu cyflogi mewn swyddi parhaol).

3.3        Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu gyda'r cwestiynau nas cyrhaeddwyd.

 

(13.15-14.45)

4.

Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru): Sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Vaughan Gething AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Sioned Rees, Uwch Swyddog Cyfrifol, Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru), Llywodraeth Cymru

Janet Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr, Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru

Sapna Lewis, Cyfreithwraig, Llywodraeth Cymu

 

Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru), fel y’i cyflwynwyd

 

Memorandwm Esboniadol

 

Briff Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1        Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

4.2        Cytunodd y Gweinidog i roi manylion i'r Pwyllgor am ddatblygiadau polisi pellach mewn meysydd yn y Papur Gwyn na chafodd eu cynnwys yn y Bil.

4.3        Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor yn nodi'r meysydd yn y Bil lle mae'n disgwyl darparu canllawiau, a disgrifiad o'r hyn y mae'n disgwyl i'r canllawiau hynny ei gwmpasu. 

 

(14.45)

5.

Papurau i’w nodi

5.1

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch adolygiad barnwrol yr Alban ar erthyliad meddygol cynnar yn y cartref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1        Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

5.2

Llythyr gan Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2        Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

5.3

Llythyr gan Gadeirydd y Panel Trosolwg Annibynnol ar Wasanaethau Mamolaeth at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.3        Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

(14.45)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

6.1        Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

(14.45-14.55)

7.

Gwaith craffu cyffredinol ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1        Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.

 

(14.55-15.05)

8.

Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

8.1        Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.