Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/09/2019 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Helen Mary Jones AC a Lynne Neagle AC.

1.3 Dirprwyodd Siân Gwenllian AC ar ran Helen Mary Jones AC.

 

 

(09.30-10.45)

2.

Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru): Sesiwn dystiolaeth gyda Chynghorau Iechyd Cymuned

Alyson Thomas, Prif Weithredwr, Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned

John Pearce, Cadeirydd, Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned

Geoff Ryall-Harvey, Prif Swyddog, Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru

Mansell Bennett, Cadeirydd, Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda

 

Briff Ymchwil

Papur 1 – Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Gwnaeth Cadeirydd y Bwrdd ddatganiad agoriadol.

2.2 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gynghorau Iechyd Cymuned.

2.3 O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Jayne Bryant AC fod ei mam yn aelod o Gyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan.

2.4 Cytunodd y Cynghorau Iechyd Cymuned i ddarparu tystiolaeth atodol ar yr hawl i ymateb i sylwadau, ac i roi enghreifftiau o sut y mae'r broses hon yn gweithio'n ymarferol ar hyn o bryd.

 

(11.00-12.15)

3.

Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru): Sesiwn dystiolaeth gydag Arolygiaeth Gofal Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Margaret Rooney, Dirprwy Brif Arolygydd, Arolygiaeth Gofal Cymru

Kate Chamberlain, Prif Weithredwr, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Stuart Fitzgerald, Cyfarwyddwr Strategaeth ac Ymgysylltu, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

 

Papur 2 – Arolygiaeth Gofal Cymru

Papur 3 – Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Arolygiaeth Gofal Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

 

(12.15)

4.

Papurau i’w nodi

4.1

Llythyr gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre gyda gwybodaeth ychwanegol am y Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Canser

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

(12.15)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y Cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

(12.15-12.25)

6.

Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(12.25-12.30)

7.

Gwasanaethau Mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: paratoi ar gyfer tystiolaeth yn y dyfodol

 

Papur 5 – Gwasanaethau Mamolaeth - papur trafod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor ei ffordd o ymdrin â’r sesiwn dystiolaeth, a chytunodd arno.